Jared Payne i adael y Scarlets ar ddiwedd tymor 2025-26

Rob LloydNewyddion

Fe all Scarlets gadarnhau fydd Jared Payne yn gadael y clwb ar ddiwedd tymor 2025-26.

Ymunodd Payne â’r Scarlets yn haf 2023 o’r ochr Ffrengig Clermont Auvergne, gan gymryd ymlaen y cyfrifoldeb o arwain strategaeth ymosodol a’r olwyr cyn goruwchwylio rhaglen amddiffyn y Scarlets.

Yn gyn chwaraewyr rhyngwladol i Iwerddon ac wedi cynrychioli’r Llewod, mae Payne yn dod â llawer o brofiad i grwp hyfforddi’r Scarlets ac wedi chwarae rôl hanfodol yn cefnogi datgblygiad nifer o chwaraewyr ifanc yn ystod ei amser yng Ngorllewin Cymru.

Yn ystod ei dair tymor gyda’r Scarlets yn Llanelli, mae Payne wedi bod yn aelod werthfawr o amgylchedd rygbi’r clwb ac yn aelod poblogaidd ymysg y grwp chwaraewyr a’r staff.

Dywedodd Jared Payne: “Ar ôl llawer o ystyriaeth, dwi wedi penderfynu ar gamu i lawr o fy rôl gyda’r Scarlets ar ddiwedd y tymor.

“Mae fy amser yma wedi bod yn heriol ac yn wobrwyol yma ac wedi fy natblygu fel hyfforddwr, rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle i fod yn rhan o glwb sydd llawn balchder.

“Mae gweithio gyda’r chwaraewyr, staff a chefnogwyr wedi bod yn fraint, ac mae sawl atgof wnai drysori. Am nawr, dwi am ganolbwyntio ar gefnogi’r chwaraewyr a staff am weddill y tymor i helpu nhw i orffen y bloc yma yn gryf. Hoffwn ddiolch i bawb sydd yn gysylltiedig â’r clwb am fy nghefnogi yn ystod fy amser yma.

“Hoffwn ddymuno pob lwc i’r Scarlets am y dyfodol ac rwy’n edrych ymlaen at weld y clwb yn parhau i ddatblygu.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi dros dro y Scarlets Nigel Davies: “Mae Jared wedi gwneud cyfraniad sylweddol ers ymuno â’r Scarlets. Mae’n hyfforddwr uchel ei barch gyda dealltwriaeth arbennig o’r gêm, a wedi gweithio’n galed gyda’n chwaraewyr dros y tair tymor diwethaf.

“Mae wedi chwarae rôl pwysig yn helpu datblygu nifer o chwaraewyr sydd wedi dod trwy’r system a wedi gwithio’r safon o fewn ein hamgylchedd.

“Bydd Jared yn parhau i weithio gyda’r grwp am wedill y tymor ac edrychwn ymlaen at orffen y tymor yn dda gyda’n gilydd.”

Ychwanegodd Davies bod llawer o waith da yn ei flaen yn rhaglen rygbi’r Scarlets.

“Rydym ar hyn o bryd yn adolygu’r rhaglen rygbi i sicrhau ein bod ar y trywydd iawn gyda’r ffordd rydym eisiau chwarae, i gryfhau ein grwp o chwaraewyr ac i gefnogi datblygiad ein carfan.

“Rydym am adeiladu amgylchedd sydd yn herio ein chwaraewyr, cefnogi eu datblygiad ac adlewyrchu uchelgeisiau’r Scarlets fel clwb. Byddwn yn cadarnhau strwythur y clwb am dymor 2026-27 maes o law.

“Ar ran bawb yn y Scarlets hoffwn ddiolch i Jared am ei broffesiynoldeb a’i arbenigedd yn ystod ei amser yma a dymuno’r gorau iddo a’i deulu am y dyfodol.”

Hoffir bawb yn y Scarlets ddiolch i Jared am ei ymroddiad i’r clwb a dymuno’r gorau iddo gyda’r bennod nesaf yn ei yrfa hyfforddi.