Canolwr Cymru Johnny Williams sydd yn cymryd yr awenau fel capten am y tro cyntaf yn yr ail rownd o’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn erbyn Connacht ar ddydd Sadwrn yn Galway (1.45yp; Premier Sports).
Williams sydd wedi’i enwi’n gapten ar ôl i Josh Macleod anafu cyhyr pectoral yn ystod ymarfer yn yr wythnos.
Mae yna tri newid i’r XV a wnaeth ddechrau yn erbyn Munster penwythnos diwethaf.
Gyda Sam Costelow allan o ganlyniad i anaf i’r pen, Joe Hawkins sydd yn newid i faswr a Williams sydd yn dod i mewn fel canolwr.
Ymysg y blaenwyr, Jarrod Taylor a Dan Davis sydd yn cwblhau’r rheng ôl wrth ochr yw’r wythwr Taine Plumtree.
Mae’r triawd o Blair Murray, Tom Rogers ac Ellis Mee yn y tri ôl yn parhau, wrth i Joe Roberts ymuno â Williams yng nghanol cae. Hawkins fydd yn bartner i’r mewnwr Davies.
Alec Hepburn, Harry Thomas a Henry Thomas sydd yn parhau yn y rheng flaen, gyda Jake Ball a Max Douglas yn yr ail reng.
Y chwaraewr rheng ôl 19 oed Osian Williams fydd yn paratoi am ei ymddangosiad cyntaf yn y bencampwriaeth. Datblygodd trwy’r llwybr academi ac roedd yn gapten ar dîm D18 y Scarlets tymor diwethaf.
Mae’r Ioan Nicholas hefyd yn dod i mewn i’r garfan o 23.
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Mae Connacht wedi perfformio’n dda, yn ystod gemau cyfeillgar yr haf a phenwythnos diwethaf yn erbyn Benetton, mae ganddyn nhw Stuart Lancaster yn arwain ac maent i weld yn uned gref. Roedd penwythnos diwethaf yn erbyn Munster yn un o’r gemau mwya’ corfforol i ni wedi’i weld am sawl flwyddyn, ond fe orffennon ni’r gêm yn gryf ac i ni’n hyderus yn hynny. Yn amlwg mae agweddau sydd angen gwella, yn enwedig wrth gymryd cyfleoedd. I ni, mae’n bwysig i fynd yna i herio Connacht ar domen eu hunain.
Tîm y Scarlets i wynebu Connacht yn Stadiwm Dexcom ar ddydd Sadwrn, Hydref 4 (1.45yp)
15 Blair Murray; 14 Tom Rogers, 13 Joe Roberts, 12 Johnny Williams (capt), 11 Ellis Mee; 10 Joe Hawkins, 9 Gareth Davies; 1 Alec Hepburn, 2 Harry Thomas, 3 Henry Thomas, 4 Max Douglas, 5 Jake Ball, 6 Jarrod Taylor, 7 Dan Davis, 8 Taine Plumtree.
Eilyddion: 16 Kirby Myhill, 17 Sam O’Connor, 18 Harri O’Connor, 19 Tristan Davies, 20 Osian Williams, 21 Dane Blacker, 22 Ioan Nicholas, 23 Macs Page.
Ddim ar gael oherwydd anaf
Josh Macleod, Sam Lousi, Sam Costelow, Kemsley Mathias, Ryan Elias, Eddie James, Jac Price, Will Evans, Dom Kossuth.
Ddim ar gael oherwydd dyletswydd rhyngwladol
Marnus van der Merwe
