Bydd Josh Macleod yn arwain y Scarlets ar gyfer 2026-27 yn ei bedwerydd tymor fel capten y clwb.
Yn un o’r chwaraewyr rheng ôl blaenllaw yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig BKT, mae gan Macleod 150 o ymddangosiadau yng nghrys Scarlets, ar ôl gwneud ei ymddangosiad cyntaf 11 mlynedd yn ôl yn ddeunaw oed.
Wedi’i fagu yn Sir Benfro, daeth Macleod trwy rengoedd Clwb Rygbi Crymych cyn serennu i’r Scarlets ar lefel gradd oedran.
Cafodd ei enwi’n gapten am y tro cyntaf yn ystod ymgyrch 2022-23, gan gymryd yr awennau oddi wrth Jonathan Davies oedd wedi anafu, ac wedi arwain yr ochr i rownd gyn-derfynol Cwpan Pencampwyr EPCR.
Wedi ennill pum cap i Gymru, mae Macleod wedi dangos ei ddoniau fel arweinydd, ar ac oddi ar y cae. Mae ei ymrywmiad i’r crys wedi ei ddatblygu i mewn i un o’r chwaraewyr mwyaf uchel ei barch yng ngharfan y Scarlets.
Mae’r chwaraewr rheng ôl profiadol a phoblogaidd wedi’i ddewis i arwain y garfan i mewn i dymor newydd yn dilyn llawer o newidiadau i’r grwp chwarae a’r rhaglen rygbi ym Mharc y Scarlets dros yr haf.
Dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi y Scarlets Nigel Davies: “Mae dewis capten i’r clwb yn benderfyniad pwysig. Mae rhaid dewis rhywun sydd yn cynrychioli’r holl bethau rydym yn disgwyl o’r tîm bob dydd, ac mae Josh yn gwneud hynny’n reddfol.
“Yn y cyddestun o raglen rygbi newydd a llawer o newidiadau dros yr haf, roedd angen ystyried yr arweinyddiaeth oedd gyda ni yma.
“Wrth edrych ar sut mae Josh yn ymarfer, sut mae’n cystadlu, y ffordd mae’n cario’i hun o amgylch yr amgylchedd yma, ac yn fwy pwysig, cymaint mae’r clwb yma’n ei olygu iddo, roedd yn glir i ni fel hyfforddwyr mae dyma’r arweinydd naturol i’r garfan.
“Mae Josh yn Scarlet i’r carn, ond nid yw hynny’n ddigon ar ei hun. Mae’n gystadleuydd arbennig. Yn ddewr, yn gorfforol, ac yn gweithio’n galed iawn i baratoi ei hun ar gyfer y gêm. Fel tîm, rydym am gystadlu am bopeth a chadw ein hunain yn y frwdyr yn ogystal â deall beth mae cynrychioli’r rhanbarth yma’n ei olygu. Mae Josh yn ymgorffi hynny.
“Rydym wedi siarad yn fewnol am y safonnau sydd angen i gario’r clwb yma ymlaen. Os ydyn am newid canlyniadau, rhaid newid beth rydym yn barod i aberthu, ac mae gan y capten rôl pwysig i yrru’r safonau hyn.
Yn cefnogi Macleod yn y rôl fydd is-gapten a fydd yn cael ei gyhoeddi dros yr wythnosau nesaf yn ogystal â grwp arweinyddiaeth o chwaraewyr hŷn, gyda sawl aelod o chwaraewyr profiadol yn darparu arweinyddiaeth ychwanegol i aelodau’r garfan.
Ychwanegodd Davies: “Yn amlwg fydd yna adegau anodd yn ystod y tymor a dyna pryd mae’r arweinyddiaeth yn hollbwysig. Rydym am fagu chwaraewyr sydd yn barod i siarad, i herio, i wneud penderfyniadau ac i gymryd rheolaeth. Bydd Josh yn arwain hynny, gyda grwp cryf o’i amgylch.”

Dywedodd capten y Scarlets Josh Macleod: “Mae’n parhau i fod yn anrhydedd enfawr i arwain y clwb. Mae’n bleser i fod yn dilyn llwybr rhai o fawrion y gêm sydd wedi bod yn gapten ar y Scarlets.
“Mae’r tymor yma’n teimlo’n wahanol. Mae llawer o newidiadau wedi bod, mae chwaraewyr a hyfforddwyr newydd yn yr amgylchedd ac mae yna her wedi’i osod i ni fel grwp am le i ni am fynd â’r tîm yma.
“Gyda llawer o wynebau newydd yma, mae egni ychwanegol i deimlo yn y garfan ymysg grwp o chwaraewyr talentog ifanc sydd wedi camu i fyny trwy gydol ymarferion yr haf. Dyna’n gwmws beth sydd angen arnom ni yn y gystadleuaeth.
“Fel capten, mae’n bwysig i sicrhau mae’r safonau sydd yn cael eu weithredu ydy’r safonau sydd wedi’u gosod, ac mae hynny’n golygu yn ymarferion, yn yr amgylchedd, ac yn fwy pwysig, pan rydym yn gwisgo’r crys.
Mae Macleod yn edrych ymlaen at weithio gyda’r is-gapten a gweddill aelodau’r grwp arweiynddiaeth.
Ychwanegodd: “Nid yw bod yn gapten yn golygu mae un person sydd gyda’r atebion cywir. Mae llawer o brofiad a phersonoliaethau ymysg yn ein carfan ac mae’n bwysig ein bod yn defnyddio hynny.
“Rydym yn ffodus iawn i gael grwp o gefnogwyr sydd wedi aros wrth ein hochr yn ystod cyfnodau anodd iawn. Wrth gwrs rydym yn ymwybodol mae’r ffordd i dalu nôl am y cefnogaeth yna yw i berfformio ac ennill gemau.
“Edrychwn ymlaen yn fawr at fynd i Gaerwysg ar gyfer ein gêm gyfeillgar cyntaf ac wedi adeiladu tuag at gêm agoriadol y URC yn erbyn Caerdydd ym Mharc y Scarlets.
“Mae llawer o waith i’w wneud , ond dwi methu aros i arwain y bois i mewn i’r her.”
