Josh Macleod i arwain y Scarlets ar ei 150 ymddagnosiad

Rob LloydFeatured

Fe fydd y capten Josh Macleod yn arwain y tîm ar ei 150 ymddangosiad wrth i’r Scarletts wynebu’r Dreigiau yn rownd olaf Pencampwriaeth Rygbi Unedig BKT URC ym Mharc y Scarlets ddydd Sadwrn (17:15; S4C & Premier Sports).

Fe fydd Macleod yn arwain tîm sydd â phedwar newid i’r tîm a wynebodd y Gweilch penwythnos diwethaf yn Mhenybont.

Mae newid tu ôl i’r sgrym yn dilyn anaf i’r canolwr rhyngwladol Eddie James.

Mae Macs Page, a oedd yn arbennig yn erbyn y Gweilch, yn symud i’r canol; mae Blair Murray yn symud o safle’r cefnwr i’r asgell, gyda Ioan Jones yn dod i mewn i safle’r cefnwr ar ei ail ddechreuad i’r Scarlets.

Yn y canol, fe fydd Page yn partneri gyda Joe Roberts; tra bod Joe Hawkins a Dane Blacker yn parhau â’u partneriaeth am y pumed gêm.

Ymhlith y blaenwyr, mae yna newid i’r reng flaen gyda Josh Morse, y prop 21 mlwydd oed, yn cael ei ddechreuad cyntaf yn y URC. Daw Archer Holz i mewn ar yr ochr dynn a Ryan Elias yn parhau fel bachwr.

Gyda Sam Lousi yn absennol, mae Jac Price unwaith eto yn dechrau yn yr ail reng ochr yn ochr â Max Douglas, a fydd yn chwarae ei gêm olaf i’r Scarlets cyn symud i Siapan yn yr haf.

Yn y reng ôl, mae Fletcher Anserdon yn absennol am y tro cyntaf ers ymuno â’r Scarlets nôl ym mis Tachwedd ar ôl dioddef anaf yn y gêm yn erbyn y Gweilch. Mae Taine Plumtree yn symud o safle’r wythwr gyda Jarrod Taylor yn dechrau yn safle’r blaenagellwr tywyll.

Wedi’i gynnwys ar y fainc y mae’r mewnwr rhyngwladol Gareth Davies, sydd wythnos yma wedi arwyddo cytundeb newydd gyda’r clwb.

Mae Sam O’Connor a Jac Davies, a enillodd deitl Super Rygbi Cymru gyda Llanymddyfri penwythnos diwethaf, ynghyd â’r blaenwr Osian Williams.

Dywedd Nigel Davies, Cyfarwyddwr dros dro y Scarlets: “Mae gweld Josh yn cyrraedd 150 o gemau i’r clwb yn foment arbennig oherwydd mae’n cynrychioli gymaint o egwyddorion y Scarlets.

“Mae e’n fwy na chapten, mae e’n mynnu safonau uchel, ac mae e’n un o arweinwyr emosiynol y grwp. Mae’r chwaraewyr yn ei barchu’n fawr oherwydd y safonau y mae’n mynnu, yr hyn y mae wedi aberthu a’r ffordd y mae e’n cario ei hunan yn ddyddiol.

“Mae wedi dioddef anafiadau yn ystod ei yrfa, ond mae e wedi dod yn ôl yn gryfach. Mae’r gwydnwch hwnnw wedi ei wneud y chwaraewr yw e heddiw.

“Ry’n ni wedi gweld wythnos yma bod y bois yn awyddus i sicrhau perfformiad wrth i Josh gyrraedd y carreg filltir holl bwysig a phendantrwydd go iawn i orffen y tymor yn y ffordd gorau posib i’r chwaraewyr sy’n gadael a’r cefnogwyr sydd wedi’n cefnogi ni trwy gydol y tymor.

“Nid yw’r canlyniadau wedi adlewyrchu digon o’r gwaith caled ry’n ni wedi ei wneud, ond mae’r chwaraewyr wedi parhau i gystadlu, wedi parhau i frwydro dros ei gilydd, ac mae hyn yn rhywbeth y dylem ni ymfalchio ynddo.”

Nid yw’r canolwr Jonny Williams ar gael oherwydd anaf i’w ysgwydd, tra bod y bachwr Marnus van der Merwe yn absennol oherwydd anaf i’w goes.

Fe fydd Marnus ymhlith y chwaraewyr sy’n gadael ac yn rhan o’r cyflwyniadau ar ôl y gêm ddydd Sadwrn.

Tîm y Scarlets i wynebu’r Dreigiau ddydd Sadwrn 16 Mai (17:15; S4C & Premier Sports)

15 Ioan Jones; 14 Tom Rogers, 13 Macs Page, 12 Joe Roberts, 11 Blair Murray; 10 Joe Hawkins, 9 Dane Blacker; 1 Josh Morse, 2 Ryan Elias, 3 Archer Holz, 4 Jac Price, 5 Max Douglas, 6 Jarrod Taylor, 7 Josh Macleod (capt), 8 Taine Plumtree.

Eilyddion: 16 Harry Thomas, 17 Sam O’Connor, 18 Harri O’Connor, 19 Dan Davis, 20 Osian Williams, 21 Gareth Davies, 22 Carwyn Leggatt-Jones, 23 Jac Davies.

Yn absennol oherwydd anafiadau

Fletcher Anderson, Eddie James, Johnny Williams, Sam Lousi, Tristan Davies, Marnus van der Merwe, Ellis Mee, Sam Costelow, Jake Ball, Will Evans, Dom Kossuth.