Llai na 80 sedd 1872 ar ôl ar gyfer tymor 2026-27

Rob LloydNewyddion

Fe fydd prisiau cynnar tocynnau tymor y Scarlets ar gyfer tymor 2026-27 yn dod i ben ddydd Sul 7 Mehefin, a nifer bach o seddau sy’n weddill yng nghategori 1872.

Wedi’i enwi ar ôl blwyddyn sefydlu’r clwb, y seddau yma yw’r gorau yn Eisteddle Gogledd Owens Group wedi’u lleoli gyferbyn â’r linell hanner ffordd. Mae seddau 1872 yn Eisteddle De Castell Howell hefyd yn cynnig golygfa arbennig o’r cae gyferbyn â’r linell 10m.

Mae aelodau 1872 yn cael mynediad cyn ac ar ôl pob gêm gartref i Lolfa Strade, sydd wedi’i leoli yn Eisteddle De Castell Howell.

Fe fydd y Lolfa yn croesawu’r cyn chwaraewyr ar gyfer tymor 2026-27, gan roi cyfle i gefnogwyr gyfarfod a sgwrsio gyda rhai o fawrion y clwb.

Mae pob sedd 2025-26 wedi eu rhyddhau ac ar gael ar werthiant cyffredinol bellach.

Peidiwch â cholli’ch cyfle i eistedd yn un o’r lleoliadau gorau ar gyfer y tymor nesaf.

Fe fydd y cyfan yn dechrau yn y BKT URC prynhawn Sadwrn 26 Medi pan fydd y Scarlets yn croesawu Caerdydd i’r Parc, cic gyntaf 17:30