Fe fydd y Scarlets ync roesawu Rygbi Caerdydd i Barc y Scarlets Sadwrn 26 Medi ar gyfer rownd agoriadol tymor 2026-27 Pencampwriaeth Rygbi Unedig BKT.
Gwerthwyd pecynnau lletygarwch ar gyfer y gêm diwethaf yn erbyn Caerdydd, nôl ym mis Ebrill, wythnosau cyn diwrnod y gêm ac mae disgwyl gweld yr un diddordeb eto ar gyfer y gêm ddarbi hon. Archebwch eich lle yn gynnar er mwyn osgoi colli mas!
Clwb Carwyn
Profwch groeso gwych yn ein lolfa unigryw, Clwb Carwyn, lle mae clwb rygbi traddodiadol yn cwrdd â chyffro rygbi byw!
Wedi’i leoli ar y trydydd llawr yn wynebu’r cae, mae ein lolfa groesawgar yn cynnig golygfeydd gêm heb eu hail, gan sicrhau na fyddwch byth yn colli eiliad. Ymlaciwch yn ein seddi premiwm wrth fwynhau pryd blasus un cwrs.
Beth sydd wedi’i gynnwys:
- Pryd un cwrs
- Bar am ddim hyd at y gic gyntaf*
- Sesiwn holi ac ateb cyn y gêm o dan arweiniad ein cyn chwaraewr, a chyn chwaraewr Cymru, Scott Williams
- Mynediad i’r lolfa dwy awr cyn y gic gyntaf ac hyd at ddwy awr ar ôl y chwiban olaf
- Sedd tu allan i’r lolfa
*i gynnwys Cwrw, Gwinoedd Safonol, Gwirod Sengl a Chymysgydd a Diodydd Meddal
Mae’r pecyn ar gael am £100 y pen ar gyfer gêm agoriadol y tymor newydd.
Lolfa Quinnell Cadog Homecare
Mae Clwb Busnes Cadog Homecare yn cynnig safle arbennig i chi fwynhau profiad diwrnod gêm yn un o’n lolfeydd moethus a chyfforddus.
P’un a ydych chi eisiau creu argraff ar gleientiaid presennol neu ddarpar gleientiaid, neu dreulio amser gyda theulu a ffrindiau, rydych chi’n siŵr o gael profiad arbennig. Dyma’r lle i rwydweithio ac ymlacio.
Beth sydd wedi’i gynnwys:
- Pryd tri chwrs hunan-wasanaeth
- Sesiwn holi ac ateb
- Tocyn gêm wedi’i leoli uwchben y twnel
- Byrbrydau blasus ar ôl y gêm
- Un lle parcio ym Maes Parcio Tata Steel (am bob 5 gwestai)
- Mynediad i’r lolfa dwy awr cyn y gic gyntaf ac hyd at ddwy awr ar ôl y chwiban olaf
- Gwasanaeth gweinydd dioddydd wrth eich bwrdd
Ymunwch â ni yng Nghlwb Busnes Cadog Homecare yn Lolfa Quinnell am £162 y pen.
I archebu, cliciwch yma
Mae aelodaeth tymor ar gael hefyd. Am wybodaeth bellach cysylltwch â [email protected]
