Er mwyn gwneud eich profiad diwrnod gêm yn gyflymach ac yn haws, mae’r Scarlets yn cyflwyno proses dalu newydd ar draws ein safleoedd bwyd a diod cyhoeddus.
O hyn ymlaen, bydd pob ciosg yn gweithredu gydag un til arian parod yn unig. Bydd pob til arall ar gael ar gyfer taliadau cerdyn a digyswllt.
Talu ag arian parod? Chwiliwch am y til arian parod dynodedig yn eich ciosg dewisol.
Talu â cherdyn neu ddi-gyswllt? Gallwch ddefnyddio unrhyw un o’r tiliau eraill sydd ar gael.
Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd a’ch cydweithrediad wrth i ni gyflwyno’r newid hwn. Bydd ein tîm wrth law i helpu i gyfeirio cefnogwyr at y til cywir.
Diolch am eich cefnogaeth barhaus i’r Scarlets!
