Mae bod yn rhan o deulu’r Scarlets yn golygu mwy na dim ond gwylio rygbi. Mae’n golygu rhannu yn yr uchafbwyntiau a’r heriau, sefyll ysgwydd wrth ysgwydd yn yr eisteddle, a chreu awyrgylch sy’n gwneud Parc y Scarlets yn un o gartrefi arbennig y gêm.
Mae eich cefnogaeth yn tanio’r chwaraewyr ar y cae ac yn helpu i gario ein traddodiadau balch ymlaen i’r genhedlaeth nesaf.
Diolch am fod yn rhan o’r daith. Gyda’n gilydd, rydym yn edrych ymlaen at dymor bythgofiadwy arall mewn sgarlet!
Mae tocyn tymor y Scarlets yn fwy na thocyn, mae’n cynnig mynediad at dymor cyffrous a’n cymuned arbennig yma ym Mharc y Scarlets.
Mae Eisteddle’r Gogledd Owens Group gyferbyn ag Arena FSG ac mae’n cynnig awyrgylch bywiog yn ystod gemau, ac mae’n gartref i’r clybiau cymunedol sy’n ymweld ar ddiwrnod gêm.
Mae’r eisteddle yn cynnwys safle sefyll, gan gynnig profiad diwrnod gêm traddodiadol.
SAFLE SEFYLL
Wedi’i leoli ar flaen yr eisteddle, mae’r safle sefyll yn eich rhoi chi’n agos iawn at y cyffro ar y cae.
Awyrgylch bywiog.
SOSBAN
Dyma’r ffordd gorau i ddechrau eich siwrne gyda ni ym Mharc y Scarlets.
Pobl sy’n prynu am y tro cyntaf yn unig, neu unigolion sydd heb gael tocyn tymor am dri thymor neu mwy.
SAFONOL
Seddau gwych ar gyfer teuluoedd neu grwpiau o ffrindiau sy’n mynychu Parc y Scarlets yn rheolaidd.
UWCHRADD
Mae seddau Macsen wedi’u lleoli rhwng y linell 10m a 22m, ‘Uwchradd’ oedd yr enw ar y tocynnau yma gynt.
1872
Y pecyn sydd wedi’i enwi ar ôl blwyddyn sefydlu’r clwb, y seddau yma yw’r gorau yn eisteddle’r gogledd wedi’u lleoli gyferbyn â’r linell hanner ffordd.
Mynediad cyn ac ar ôl y gêm i Lolfa Strade, wedi’i leoli yn Eisteddle De Castell Howell.
LLEOLIAD CADAIR OLWYN
Mae’r lleoliad cadair olwyn yn Eisteddle’r Gogledd Owens Group yn cynnig golygfa arbennig o’r cae, ac mae modd ei gyrraedd o’r lifft yn y cyntedd. Mae Tocyn Tymor Cadair Olwyn yn cynnwys 1 tocyn gofalwr am ddim.
I weld y prisiau a’r buddion ychwanegol y cewch chi fel daliwr tocyn tymor, cliciwch yma
