Mynnwch eich docynnau pris cynnar ar gyfer hwyl yr wyl yn erbyn Connacht

Rob LloydNewyddion

Fe fydd y Scarlets yn gobeithio sicrhau trydydd buddugoliaeth cartref wrth ddychwelyd i’r Parc Sadwrn, Rhagfyr 5 i wynebu Connacht yn chwewched rownd BKT URC.

Mae tocynnau ar gyfer y Gwyddelod (cic gyntaf 5.15pm) ar werth nawr am bris cynnar, felly peidiwch a cholli’r cyfle wrth i ni geisio adeiladu ar fuddugoliaethau dros Benetton a Newcastle Red Bulls.

Fe fydd y gêm yn llawn hwyl yr wyl wrth i ni chwarae’n gêm gartref olaf cyn y Nadolig felly peidiwch anghofio eich siwmper Nadolig, fe fydd y rhai newydd ar werth yn siop VX3 cyn bo hir!

Mae tocynnau pris cynnar Connacht ar gael tan ddydd Sul, Tachwedd 22 ac maent ar gael YMA