Harvey Cuckson ac Alex Groves, y ddau glo ar gytundebau byrdymor i’r Scarlets fydd yn ymddangos am y tro cyntaf i’r clwb yng ngêm rownd pedwar o’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn erbyn y Lions ym Mharc Ellis (12:45 amser DU; Premier Sports).
Gyda’r Scarlets yn colli chwe chlo o ganlyniad i anafiadau, mae’r ddau yn cymryd eu cyfle allan yn Johannesburg.
Mae’r prif hyfforddwr Dwayne Peel wedi penderfynu ar saith newid yn dilyn y golled yn erbyn y DHL Stormers yn rownd tri.
Tu ôl i’r sgrym, mae Ioan Nicholas yn dod i mewn i safle’r cefnwr gyda Blair Murray yn newid i’r asgell. Mae Tom Rogers yn eisiau oherwydd anaf.
Macs Page fydd yn gwneud ei ddechreuad cyntaf o’r tymor fel partner i’r capten Johnny Williams yng nghanol cae, wrth i Sam Costelow cael ei enwi yng nghrys rhif 10 ac yn ymuno â Archie Hughes sydd yn cymryd safle Gareth Davies fel mewnwr.
Yn y rheng flaen, mae Archer Holz ar y pen tynn, yn cydweithio ag Alec Hepburn a Marnus van der Merwe. Cuckson a Groves sydd yn yr ail reng, a’r rheng ôl o Jarrod Taylor, Dan Davis a Taine Plumtree yn parhau.
Ar y fainc, mae yna botensial am ymddangosiad cyntaf i chwaraewr ail reng D20 Cymru a Llanymddyfri Dan Gemine, sydd wedi treulio amser yn ymarfer gyda’r garfan ym misoedd agoriadol y tymor.
Dywedodd y prif hyfforddwr Dwayne Peel: “Mae chwarae’r Lions yn eu cartref yn her anodd, rydym yn chwarae ar dir uchel a dyma le rydyn nhw’n chwilio i redeg gwrthwynebwyr oddi traed. Mae’r Lions yn gorfforol ac yn athletaidd felly fydd rhaid i ni reoli hynny. Roedd ennill yma tymor diwethaf yn hwb enfawr i ni ac mae sawl un o’r garfan yna yn chwarae ar y penwythnos. Rhaid i ni chwarae ar yr un lefel a dwyster y tro yma. Ellis Park ydy un o’r llefydd gorau i chwarae. I ni’n siomedig gyda’r canlyniadau diweddaraf, ond i ni ond wedi chwarae dwy gêm, mae’r tymor yn un hir ac mae pethau gallu newid yn gyflym.”
Tîm y Scarlets i wynebu’r Lions ym Mharc Ellis ar Ddydd Sadwrn, Hydref 18 (12.45yp amser DU; Premier Sports)
15 Ioan Nicholas; 14 Ellis Mee, 13 Macs Page, 12 Johnny Williams (capt), 11 Blair Murray; 10 Sam Costelow, 9 Archie Hughes; 1 Alec Hepburn, 2 Marnus van der Merwe, 3 Archer Holz, 4 Harvey Cuckson, 5 Alex Groves, 6 Jarrod Taylor, 7 Dan Davis, 8 Taine Plumtree.
Eilyddion: 16 Kirby Myhill, 17 Sam O’Connor, 18 Henry Thomas, 19 Dan Gemine, 20 Ben Williams, 21 Dane Blacker, 22 Joe Hawkins, 23 Joe Roberts.
Ddim ar gael oherwydd anaf
Max Douglas, Tristan Davies, Tom Rogers, Jake Ball, Josh Macleod, Sam Lousi, Kemsley Mathias, Ryan Elias, Eddie James, Jac Price, Osian Williams, Will Evans, Dom Kossuth.
