Ond 10 diwrnod i fynd tan ein gêm agoriadol URC yn erbyn Caerdydd!

Rob LloydFeatured

Rydym yn cyfri i lawr at gêm agoriadol y Bencampwriaeth Rygbi Unedig BKT gydag ond 10 diwrnod i fynd tan i ni groesawu Rygbi Caerdydd i Barc y Scarlets ar ddydd Sadwrn, Medi 16 (cg 19:45).

Mae’r paratoadau ar gyfer y gêm fawr yn parhau ar ddydd Gwener, gyda’r Scarlets yn croesawu nôl ein chwaraewyr rhyngwladol ar gyfer y gêm gyfeillgar olaf yn erbyn Saracens.

Gyda’r frwydr rhwng y Gorllewin a’r Dwyrain yn ornest gyffrous i gefnogwyr, gyda sawl gêm agos wedi cymryd lle dros y blynyddoedd diwethaf.

Aeth y Scarlets ymlaen i serennu ym Mharc yr Arfau tymor diwethaf, trwy trechu’r Caerdydd ar tomen eu hunain â Gareth Davies yn croesi am ddau gais, tra wnaeth y cyn-Scarlet Javan Sebastian dychwelyd i’w hen stadiwm yn Llanelli i gipio’r fuddugoliaeth i Gaerdydd yn munudau olaf y gêm.

Mae’r cyffro’n cynyddu felly peidiwch â cholli mas ar gêm sy’n addo i fod yn un i’w gofio.

Tocynnau ar gael YMA neu cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01554 292939.