Prop Cymru Corey Domachowski yn ymuno â’r Scarlets o Gaerdydd

Rob LloydNewyddion

Mae’r Scarlets wedi cryfhau eu rheng flaen trwy arwyddo’r prop pen rhydd rhyngwladol Corey Domachowski o Gaerdydd.

Bydd y chwaraewr 29 oed yn cyrraedd Llanelli gyda llawer o brofiad, gan wneud 136 o ymddangosiadau i Rygbi Caerdydd ac ennill 10 cap rhyngwladol ers ei ymddangosiad cyntaf yng nghrys Cymru yn erbyn Lloegr yn Haf 2023.

Wedi datblygu trwy system Academi Caerdydd, mae Domachowski wedi creu enw da yn y sgrym, ac yn sefyll yn 6tr a’n pwyso’n 118kg, mae’n dod â chorfforoldeb a chysondeb ar lefel uchaf y gêm.

Ymddangosodd ym mhedair o bum gêm Cwpan Rygbi’r Byd yn Ffrainc yn 2023 gan chwarae yn erbyn yr Alban, Lloegr, Iwerddon a Ffrainc yng ngemau Chwe Gwlad 2024.

Bydd Domachowski yn ymuno â charfan y Scarlets haf hwn, gan ddod â phrofiad a dyfnder i grwp y blaenwyr sydd yn parhau i esblygu a chryfhau.

Wrth edrych ymlaen at symud i Orllewin Cymru, dywedodd: “Dwi wedi cyrraedd pwynt yn fy nghyrfa lle dwi am wynebu her newydd ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y symud.

“Mae’r Scarlets yn glwb gyda llawer o angerdd, hanes balch a chysylltiad agos gyda’r gymuned sydd yn rhywbeth wnaeth sefyll allan i mi.

“Yn amlwg roedd gadael Rygbi Caerdydd ar ôl 10 mlynedd ddim yn benderfyniad hawdd ac rwy’n ddiolchgar iawn i Gaerdydd a’r cefnogwyr am yr holl gefnogaeth.

“Fe wisgais i grys Caerdydd gyda balchder ac fe fyddai’n cymryd yr un meddylfryd i Orllewin Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at greu argraff ar ac oddi ar y cae – rwy’n edrych ymlaen at gwrdd bawb yn y clwb dros yr haf, gan gynnwys y cefnogwyr.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi Dros Dro y Scarlets Nigel Davies: “Mae Corey yn dod â phrofiad o’r lefel uchaf, yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig, yng Nghwpan Pencampwyr ac o’r gêm rhyngwladol a dyna’n gwmws beth sydd angen arnom er mwyn i ni barhau i adeiladu.”

“Mae’n gariwr cadarn, ac yn fwy pwysig, yn berson sy’n deall beth mae’n cymryd i gystadlu’n gyson ar y lefel uchaf o’r gêm.

“Mae gyda ni sawl chwaraewr talentog ifanc sy’n datblygu yn ein carfan ac mae cael chwaraewr gyda’r profiad a dealltwriaeth sydd gan Corey yn werthfawr iawn – nid yn unig o ran perfformiad ond hefyd o ran gwthio safonnau a chystadlu ar draws y garfan.

“Bydd hyn yn cryfhau’r sylfaen yma wrth i ni ychwanegu chwaraewr â phroffil da i gefnogi lle rydym am fynd fel tîm”

Mae arwyddiad Domachowski yn dilyn cadarnhad bydd yr wythwr Fletcher Anderson a’r chwaraewr rheng ôl a chapten Josh Macleod yn parhau gyda’r Scarlets.

Bydd mwy o newyddion cytundebau i ddod dros yr wythnosau nesaf.