Ryan Elias i fod yn gapten i’r Scarlets ar Wyl San Steffan

Rob LloydFeatured

Y bachwr Ryan Elias fydd yn gapten dros y Scarlets ar gyfer y gêm fawr yn erbyn y Gweilch ar Wyl San Steffan (17:30; S4C & Premier Sports).

Elias sydd yn cymryd yr awennau wrth Josh Macleod sydd yn dilyn protocol dychwelyd i chwarae ar ôl anaf i’r pen yn erbyn Caerdydd.

Mae’r prif hyfforddwr Dwayne Peel wedi penderfynu ar bedair newid i’r tîm yn dilyn y fuddugoliaeth ym Mharc yr Arfau.

Gyda Blair Murray yn delio ag anag i’w bigwrn, mae Ellis Mee yn newid i safle’r cefnwr a Joe Roberts yn dod ymlaen i’r asgell chwith. Tom Rogers sy’n parhau ar yr asgell dde.

Does dim newidiadau i weddill yr olwyr gyda Eddie James a Johnny Williams yn parhau yng nghanol cae a Joe Hawkins a Gareth Davies fel ein haneri.

Yn y rheng flaen, mae Kemsley Mathias yn colli mas oherwydd anaf afl felly mae Alec Hepburn yn cychwyn yn safle’r prop pen rhydd wrth ochr Elias ac Archer Holz.

Jake Ball a Sam Lousi sydd wedi’u henwi yn yr ail reng, gyda Taine Plumtree wedi gwella o anaf i’w asennau i gymryd lle Josh Macleod ar yr ochr agored.

Ar y fainc, y prop pen rhydd Josh Morse sy’n paratoi am ei ymddangosiad cyntaf yn y bencampwriaeth, yn ogystal â’r maswr Elis Price.

Dywedodd y prif hyfforddwr Dwayne Peel: “Mae’r gêm yma bob amser yn un gorfforol a sai’n disgwyl unrhyw gwahaniaeth y tro yma. Rwy’n sicr fydd y Gweilch yn ysu i ddod i’r Parc.

“Gyda’r ddau dîm yn mor agos, ond dros y bont o’i gilydd, mae’n mynd i fod yn gystadleuaeth wych i’r gymuned. Rydym yn disgwyl torf mawr ac mae’r tywydd i fod yn sych felly i ni’n edrych ymlaen at yr achlysur.”

Tîm y Scarlets i wynebu’r Gweilch ar ddydd Gwener, Rhagfyr 26 (17:30; S4C Wales & Premier Sports)

15 Ellis Mee; 14 Tom Rogers, 13 Eddie James, 12 Johnny Williams, 11 Joe Roberts; 10 Joe Hawkins, 9 Gareth Davies; 1 Alec Hepburn, 2 Ryan Elias (capt), 3 Archer Holz, 4 Sam Lousi, 5 Jake Ball, 6 Max Douglas, 7 Taine Plumtree, 8 Fletcher Anderson.

Eilyddion: 16 Marnus van der Merwe, 17 Josh Morse, 18 Henry Thomas, 19 Tristan Davies, 20 Jarrod Taylor, 21 Archie Hughes, 22 Elis Price, 23 Macs Page.

Ddim ar gael oherwydd anaf/salwch

Josh Macleod, Blair Murray, Kemsley Mathias, Sam Costelow, Harvey Cuckson, Ioan Jones, Isaac Young.