Y maswr rhyngwladol Sam Costelow fydd yn dychwelyd o anaf i’r Scarlets i wynebu Northampton Saints yn y bedwaredd rownd o Gwpan Pencampwyr Investec yn Franklin’s Gardens ar ddydd Sul (15:15; Premier Sports).
Nad yw Costelow wedi chwarae ers yr ail rownd yn Bordeaux ym mis Rhagfyr oherwydd anaf a gafwyd yn ystod ymarferion.
Mae Sam yn dod i mewn fel un o dri newid i’r tîm yn dilyn y golled yn erbyn Section Paloise wythnos diwethaf.
Yn y tri ôl, mae Jac Davies yn cychwyn fel cefnwr, ar ôl ymddangos yn y rowndiau agoriadol yn erbyn Bryste a Bordeaux-Begles. Mae Tom Rogers wedi’i anafu felly mae Blair Murray yn newid i’r asgell chwith gydag Ellis Mee ar y dde.
Gyda Costelow yn dechrau yng nghrys rhif 10, Joe Hawkins sy’n symud i ganol cae gyda Eddie James sy’n cymryd safle Joe Roberts sydd wedi anafu ei bigwrn ar ôl gêm penwythnos diwethaf.
Archie Hughes sy’n parhau fel mewnwr yn dilyn ei berfformiad cryf yn erbyn y Section Paloise.
Yn y pac, does dim newidiadau i’r rheng flaen o Kemsley Mathias, Ryan Elias a Henry Thomas.
Max Douglas sy’n dychwelyd ar ôl gael ei wahardd i gydweithio â Jake Ball yn yr ail reng, wrth i’r rheng ôl barhau gyda Taine Plumtree, Fletcher Anderson a’r capten Josh Macleod.
Tomi Lewis, Macs Page a Gareth Davies sydd wedi’u henwi ar y fainc i’r olwyr, wrth i’r blaenasgellwr Jarrod Taylor hefyd cael ei gynnwys yn y garfan o 23.
Dywedodd ein Cyfarwyddwr Rygbi dros dro Nigel Davies: “Mae meddylfryd positif a chred yn bwysig iawn i ni. Mae Northampton yn dîm arbennig a fydd y ffefrynnau i ennill ac mae hynny’n ddealladwy – mae rhaid i ni sicrhau ein bod mewn lle da i allu perfformio.
“Mae’r grŵp yn fy nghyffroi. Mae gyda ni hyfforddwyr a chwaraewyr bendigedig yma a chyfle da i fynd yn erbyn un o dimau gorau Ewrop i ddangos ein potensial.”
Tîm y Scarlets i wynebu Northampton Saints ar ddydd Sul, Ionawr 18 (15:15; Premier Sports)
15 Jac Davies; 14 Ellis Mee, 13 Eddie James, 12 Joe Hawkins, 11 Blair Murray; 10 Sam Costelow, 9 Archie Hughes; 1 Kemsley Mathias, 2 Ryan Elias, 3 Henry Thomas, 4 Max Douglas, 5 Jake Ball, 6 Taine Plumtree, 7 Josh Macleod (capt), 8 Fletcher Anderson.
Eilyddion: 16 Marnus van der Merwe, 17 Alec Hepburn, 18 Harri O’Connor, 19 Jarrod Taylor, 20 Dan Davis, 21 Gareth Davies, 22 Macs Page, 23 Tomi Lewis
Ddim ar gael oherwydd anaf/salwch
Tom Rogers, Joe Roberts, Jac Price, Archer Holz, Johnny Williams, Ioan Jones, Isaac Young.
