Y chwaraewr ail reng Sam Lousi fydd yn arwain y Scarlets allan am ei 100fed ymddangosiad yng ngêm Cwpan Pencampwyr Investec ar ddydd Sadwrn yn erbyn Section Paloise ym Mharc y Scarlets (20:00; S4C & Premier Sports).
Mae’r chwaraewr rhynglwladol i Tonga wedi gwella o anaf i’w gefn i gymryd ei le yn y XV i ddechrau, ochr sy’n dangos pum newid ers y gêm golledig ar Ddydd Calan.
Ar ôl gwella o’r anaf i’w bigwrn a gafwyd yng ngêm Caerdydd cyn y Nadolig, mae Blair Murray yn dychwelyd i safle’r cefnwr. Mae Tom Rogers ac Ellis Mee yn parhau ar yr asgell.
Mae’r bartneriaeth yng nghanol cae rhwng Eddie James a Joe Roberts hefyd yn parhau, tra bod yna newid i’r mewnwr wrth i Archie Hughes dod i mewn yn lle Gareth Davies.
Yn y rheng flaen, mae newid i’r bachwr gyda Ryan Elias yn cyfnewid â Marnus van der Merwe, sydd wedi’i enwi ar y fainc.
Lousi sydd yn parhau yn yr ail reng wrth ochr Jake Ball – un arall a gollodd mas ar y gêm yn Rodney Parade. Nid yw Max Douglas ar gael ar gyfer y gêm hon oherwydd gwaharddiad.
Mae Taine Plumtree wedi gwella o anaf i’w ysgwydd ac yn ymuno â Fletcher Anderson a’r capten Josh Macleod yn y rheng ôl.
Ymysg yr eilyddion, mae’r maswr 18 oed Carwyn Leggatt-Jones yn paratoi am ei ymddangosiad cyntaf yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop, wrth i Dane Blacker gael ei enwi fel eilydd mewnwr.
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “I ni gyd yn amlwg yn siomedig gyda’r ddau canlyniad diwethaf yn erbyn y Gweilch a’r Dreigiau. Rhaid i ni fod yn onest am yr ardaloedd sydd angen gwella ac mae rhaid i ni ymateb yn y gêm nesaf wrth wynebu tîm sydd ail yn nhabl y Top 14.
“I ni wedi brwydro’n galed i gael lle yng Nghwpan Pencampwyr ac i ni’n teimlo ein bod yn haeddu’r cyfle yma. I ni wedi dangos ein bod yn gystadleuol yn erbyn timoedd fel Bryste a Bordeaux ac mae yna cyfle o hyd i gyrraedd y gemau ail gyfle. Mae’r gêm yma’n un bwysig iawn i ni ac i ni’n edrych ymlaen at yr her.”
Tîm y Scarlets i wynebu Section Paloise ar ddydd Sadwrn, Ionawr 10 (20:00; S4C & Premier Sports)
15 Blair Murray; 14 Tom Rogers, 13 Joe Roberts, 12 Eddie James, 11 Ellis Mee; 10 Joe Hawkins, 9 Archie Hughes; 1 Kemsley Mathias, 2 Ryan Elias, 3 Henry Thomas, 4 Sam Lousi, 5 Jake Ball, 6 Taine Plumtree, 7 Josh Macleod (capt), 8 Fletcher Anderson.
Eilyddion: 16 Marnus van der Merwe, 17 Alec Hepburn, 18 Harri O’Connor, 19 Jac Price, 20 Dan Davis, 21 Dane Blacker, 22 Carwyn Leggatt-Jones, 23 Ioan Nicholas.
Ddim ar gael oherwydd anaf/salwch/gwaharddiad
Archer Holz, Johnny Williams, Sam Costelow, Ioan Jones, Isaac Young, Max Douglas.
