Sam Lousi yn ymestyn ei gyfnod gyda’r Scarlets

GwenanFeatured

Mae’r Scarlets yn falch iawn o gyhoeddi bod y clo profiadol Sam Lousi wedi ymestyn ei gyfnod gyda’r clwb ac wedi arwyddo cytundeb newydd.

Ers 2019 mae Sam wedi datblygu yn un o’r ffigyrau mwyaf adnabyddus ac uchel ei barch ymhlith chwaraewyr y Scarlets, gan ennill clod fel cystadleuydd arbennig, cariwr pêl cryf ac yn chwaraewr sy’n meddu ar y talent o gynhyrchu perfformiadau cadarn ar y lefel uchaf.

Un ffefryn gyda’r cefnogwyr ym Mharc y Scarlets, mae’r clo deinamig 34 mlwydd oed wedi chwarae 112 o gemau i’r clwb ac wedi chwarae rhan annatod yn rhai o berfformiadau mawr y clwb dros y tymhorau diweddar trwy ei gryfder, ei allu athletaidd a’i bresenoldeb o amgylch y cae.

Mae dylanwad Sam yn mynd tu hwnt i’w allu corfforol yn unig. Mae ei ddealltwriaeth o’r gêm, ei allu i symud y bêl cyn y dacl a’i waith dadlwytho wedi ei wneud yn fygythiad ym mhac y Scarlets ac yn rhan allweddol o steil ymosodol y mae’r tîm eisiau chwarae.

Daw â phrofiad ac arweinyddiaeth i’r grwp hefyd, gan osod safonau ar ac oddi ar y cae ac fe fydd yn parhau yn ffigwr pwysig yng ngharfan y Scarlets wrth i’r tîm adeiladu at y tymor newydd.

Mewn ymateb i’r cytundeb newydd, dywedodd Sam Lousi: “Rwyf wedi mwynhau’r saith mlynedd diwethaf yn fawr iawn gyda’r clwb yma ac mae’r teulu yn hapus iawn i aros yng ngorllewin Cymru mewn rhanbarth y maent yn ei alw’n adre.

“Mae’r clwb yma yn golygu lot i fi a’r teulu ac rwy’n teimlo bod digon gyda fi i’w gynnig o hyd.

“Rwy’n caru cynrychioli’r Scarlets a rhedeg i’r cae o flaen y cefnogwyr yma. Mae’r cysylltiad yr wyf wedi ei gael gyda’r cefnogwyr ers cyrraedd wedi golygu lot i fi. Ry’n ni’n gymuned agos a chrys yma yn y Scarlets.

“Mae yna gystadleuaeth go iawn yn datblygu yn y garfan, mae yna chwarae da yn ymuno ac mae yna lot o chwant o fewn i grwp i wella ac i wthio ymlaen tymor nesaf.

“Rwy’n edrych ymlaen at fod yn rhan o hynny ac yn awchu i fod yn ôl ar y cae.”

Dywedodd Nigel Davies, Cyfarwyddwr Rygbi Dros Dro y Scarlets: “Roedd cadw Sam yn ein clwb yn bwysig iawn oherwydd mae e’n dod â lot fawr o rhinweddau i’r tîm a phrofiad i’w amgylchedd. Mae e’n chwaraewr o fri ac ry’n ni’n falch iawn ei fod yn parhau â’i siwrne rygbi yma gyda’r Scarlets.

“Mae Sam Lousi holliach ac yn perfformio ar ei orau gyda’r goreuon ymhlith ail reng y gynghrair. Mae e’n gorfforol, mae e’n ymosodol ac mae e’n cynnig mantais go iawn i’r tîm.

“Yr hyn mae pobl weithiau yn anghofio yw bod ganddo ddeallusrwydd rygbi hefyd. Am gawr o ddyn mae ganddo ddealltwriaeth arbennig o’r lle sydd ganddo ar y cae, ac mae ganddo allu i rhyddhau ei ddwylo a chreu cyfleoedd i bobl o’i amgylch sy’n wych.

“Mae ein cefnogwyr yn cysylltu’n gryf â’n chwaraewyr sy’n cystadlu’n emosiynol ac yn gorfforol dros y crys ac mae Sam wedi gwneud hynny.

“Ry’n ni hefyd yn ychwanegu ansawdd a chystadleuaeth i’r grwp ail reng ac mae hynny’n bwysig iawn i lle ry’n ni eisiau mynd fel carfan.

“Mae cystadleuaeth gref yn gwella safonau a pherfformiadau ac ry’n ni o’r farn bod profiad Sam ymhlith chwaraewyr iau a newydd y garfan yn hollbwysig.”

Chwaraeodd Lousi ei ganfed gêm i’r cwb yn erbyn Section Paloise yng Nghwpan pencampwyr Invested o flaen cefnogwyr brwdfrydig ym Mharc y Scarlets ym mis Ionawr.

Wedi cynrychioli Tonga ar y llwyfan rhyngwladol, fe ddechreuodd ei yrfa proffesiynol yn chwarae rygbi’r gynghrair gyda New Zealand Warriors yn yr NRL cyn newid i rygbi’r undeb a chwarae i’r Waratahs a’r Hurricanes yn Super Rugby cyn symud i orllewin Cymru yn 2019.

Mae’r Scarlets yn barod wedi cadarnhau bod Corey Domachowski, Harvey Cuckson, John McKee a George Roberts yn ymuno â’r clwb cyn tymor 2026-27, gyda nifer o chwaraewyr presennol wedi ymestyn eu cytundebau i aros ym Mharc y Scarlets. Fe fydd mwy o newyddion yn cael ei gyhoeddi am recriwtio, hyfforddwyr a’r rhaglen rygbi estynedig dros yr wythnosau nesaf.