Blaenwr y Scarlets Max Douglas i adael y clwb am yrfa yn Japan

Rob LloydNewyddion

Gall y Scarlets gadarnhau y bydd y clo o Awstralia, Max Douglas, yn gadael y clwb ar ddiwedd y tymor i fanteisio ar gyfle i chwarae yn Japan.

Yn ystod ei ddau dymor gyda’r Scarlets, mae’r chwaraewr 24 oed wedi dod yn aelod gwerthfawr o’r garfan gan wneud 34 ymddangosiad ers cyrraedd gorllewin Cymru yn haf 2024.

Yn athletwr amryddawn a phwerus sydd wedi chwarae yn yr ail reng a’r rhes gefn, gwnaeth Max 17 ymddangosiad yn ei ymgyrch gyntaf a 17 arall y tymor hwn hyd yn hyn. Ymunodd â’r Scarlets yn dilyn cyfnod llwyddiannus gyda’r Yokohama Canon Eagles yn Japan ac roedd yn chwarae i’r Waratahs yn Super Rugby a Manly yn Sydney cyn iddo symud i Japan.

Dywedodd Max: “Rydw i wedi mwynhau fy amser gyda’r Scarlets yn fawr iawn ac rydw i’n ddiolchgar iawn am y cyfle mae’r clwb wedi’i roi i mi dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Byddaf yn edrych yn ôl ar fy amser gyda’r Scarlets gydag atgofion hapus- mae’r chwaraewyr, y staff a’r cefnogwyr wedi gwneud i mi deimlo’n rhan o rywbeth arbennig yma. Maen nhw’n angerddol iawn am y clwb a’r rhanbarth hwn ac yn falch o’i hanes, a’i hunaniaeth sy’n rhywbeth rydw i wedi mwynhau bod yn rhan ohono’n fawr iawn.”

“O’r eiliad y cyrhaeddais, gwnaeth pawb i mi deimlo’n gartrefol ac mae chwarae o flaen cefnogwyr y Scarlets ym Mharc y Scarlets yn rhywbeth y byddaf yn ei gofio am byth ac rydw i wedi gwneud ffrindiau ac atgofion gwych yn ystod fy amser yma gyda grŵp da o chwaraewyr.

“Er fy mod i’n gyffrous am y bennod nesaf, bydd gan y Scarlets le arbennig yn fy nghalon ac rwy’n dymuno pob llwyddiant i’r clwb yn y dyfodol.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi Dros Dro’r Scarlets, Nigel Davies: “Mae Max wedi gwneud cyfraniad enfawr yn ystod ei gyfnod gyda ni, gan ddod â dyfnder o brofiad, gwydnwch a chymeriad i’r garfan ac mae’n gadael gyda’n diolch diffuant a’n dymuniadau gorau.

“Mae’n weithiwr proffesiynol cystadleuol iawn ac yn rhywun sydd wedi rhoi popeth dros y crys bob tro mae wedi mynd ar y cae. Mae ei athletiaeth, ei hyblygrwydd a’i ethos gwaith wedi bod yn ased i’r garfan dros y ddau dymor diwethaf.

“Oddi ar y cae, mae wedi bod yn hynod boblogaidd o fewn y grŵp ac wedi cofleidio popeth sy’n gysylltiedig â chynrychioli’r Scarlets. Dymunwn y gorau i Max ar gyfer cam nesaf ei yrfa yn Japan.”