Scarlets i wynebu Caerwysg mewn gêm gyfeillgar ym Mharc Sandy

Rob LloydFeatured

Fe fydd y Scarlets yn wynebu Caerwysg (Exeter Chiefs) ym Mharc Sandy ddydd Sadwrn, 5 Medi.

Dyma fydd gêm gynta’r Scarlets cyn i’r tymor newydd ddechrau ac fe fydd y gic gyntaf am 3 o’r gloch.

Profodd y Chiefs dymor domestig llwyddiannus gan gyrraedd y rownd derfynol, cyn colli yn erbyn Northampton Saints yn Twickenham.

Dyma fydd y cyfle cyntaf i gefnogwyr y Scarlets weld rhai o’r wynebau newydd sydd wedi ymuno â’r clwb dros yr haf.

Mae’r Scarlets wedi ymweld â Pharc Sandy ar bum achlysur dros y blynyddoedd, gan ennill unwaith, gyda’r gêm diwethaf yn digwydd yn ystod Pencampwriaeth Chwe Gwlad 2024.

Mae tocynnau yn £10 i oedolion a £1 i bawb dan 18. Cyhoeddir mwy o fanylion cyn bo hir. 

Mae’r Scarlets wedi cyhoeddi gêm gyfeillgar yn erbyn Saracens, gyda’r tîm o Lundain yn ymweld â Pharc y Scarlets nos Wener 18 Medi (19:30).

Mae mynediad am ddim i’r gêm yma ar gyfer dalwyr tocyn tymor 2026-27. Byddwn ni’n cyhoeddi manylion tocynnau maes o law.

I fod yn rhan o’r siwrne yn 2026-27 gallwch brynu Tocyn Tymor YMA

Fe fydd y Scarlets yn dechrau tymor 2026-27 URC yn erbyn Caerdydd ym Mharc y Scarlets ddydd Sadwrn 26 Medi.

Mae disgwyl i’r clwb gyhoeddi un gêm gartref arall dros y diwrnodau nesaf.