Scarlets v Stormers: Noson hwylus o gwrw a chanu!

Rob LloydNewyddion

Fe fydd Parc y Scarlets yn llwyfannu dathliad Oktoberfest cyn gêm y Scarlets yn erbyn DHL Stormers, nos Wener 10fed Hydref.

Gwnewch yn siwr eich bod chi’n ymweld â’r Tannerkeller (Tanner Banc) cyn y gêm i fwynhau holl hwyl a sbri Oktoberfest.

Beth i ddisgwyl?

  • Steins o gwrw traddodiadol cyn y gêm
  • Bratwurst a pretzels i’w mwynhau yn y Tannerkeller
  • Hwyl a sbri Oktoberfest
  • a cherddoriaeth traddodiadol gan Eine Kleine Oomaph!

Ban 7 cerddor lled-broffesiynol yw Eine Kleine Oompah sy’n siwr o sicrhau eich bod chi’n mwynhau noson a hanner! 

Tri trwmped, sacsoffon, trombôn, tiwba a drymiau yn cyfuno i greu sain Bafaraidd gyda digon o ryngweithio â’r dorf drwy gydol y nos trwy gemau yfed, karaoke byw a chyd-ganu.

Gwisgwch eich lederhosen neu dirndl, cefnogwch y cystadleuwyr yn y ras, a pharatowch ar gyfer hanner amser bythgofiadwy!

Peidiwch â cholli’r hwyl a sbri – prynnwch eich tocynnau nawr i fod yn rhan o gêm Oktoberfest y Scarlets.

Prost! 🍻