Scarlets v Ulster: Rygbi, gwledda a gwely

Rob LloydNewyddion

Fe fydd y Scarlets yn croesawu Ulster i Barc y Scarlets ddydd Sadwrn 24 Ionawr wrth i Bencampwriaeth BKT URC rhuo’n ôl i’r llwyfan.

Rydym yn falch iawn o gydweithio gyda Gwesty Parc y Strade i gynnig pecyn gêm a dros nos arbennig i chi, ‘Rygbi, gwledda a gwely’.

Boed eich bod yn dathlu penblwydd neu achlysur arbennig, yn difyru gwesteion, neu awydd noson o ryddid o’ch bywyd beunyddiol, mae gyda ni rhywbeth arbennig ar eich cyfer!

Y Clwb Carwyn yw’r lle i fod, y lolfa lle mae’r ymdeimlad traddodiadol clwb rygbi yn dod ynghyd â moethusrwydd lolfa lletygarwch!

Wedi’i leoli ar y bryn nepell o Lanelli, mae Gwesty Parc y Strade yn blasty Edwardaidd wedi’i drawsnewid gyda golygfeydd panoramig o Benrhyn Gwyr ac arfordir Sir Gâr. Mae gan y gwesty 76 ystafell wely sydd wedi bod yn gweithredu’n llwyddiannus ers dros 20 mlynedd, ac mae’n mwynhau enw da rhagorol am safonau uchel o lety a bwyd.

Mae pecyn Rygbi, gwledda a gwely yn cynnwys;

  • Profiad Lletygarwch Clwb Carwyn, gan gynnwys pryd un cwrs
  • Bar am ddim am 2 awr hyd at y gic gyntaf*
  • Sesiwn holi ac ateb
  • Mynediad i’r lolfa dwy awr cyn y gic gyntaf ac hyd at ddwy awr ar ôl y chwiban olaf
  • Tocyn gêm i Scarlets v Ulster, Sadwrn 24 Ionawr, cic gyntaf 15:00
  • Sedd foethus tu allan i Lolfa Carwyn James i fwynhau’r holl gyffro ar y cae
  • Noson yng ngwesty 4* Gwesty Parc y Strade, gan gynnwys brecwast
  • Bws i’ch cludo yn ôl ac ymlaen o Barc y Scarlets

£115 y pen, yn seiliedig ar dau berson yn rhannu.

I archebu, ebostiwch [email protected]

*gan gynnwys cwrw, gwin safonol, gwirod sengl a chymysgydd, a diodydd meddal