Scarlets yn cadarnhau ymadawiadau rygbi ar ddiwedd tymor 2025-26

Rob LloydNewyddion

Gall Scarlets gadarnhau y bydd yr aelodau canlynol o’i garfan rygbi yn gadael y clwb ar ddiwedd tymor 2025-26.

Mae’r ail reng Jake Ball wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o rygbi yn dilyn gyrfa ddisglair i’r clwb a’r wlad, tra bydd yr asgellwr Tom Rogers, y bachwr Marnus van der Merwe, yr ail reng Max Douglas, y prop Alec Hepburn, y cefnwr Ben Williams, y clo Dan Gemine a’r mewnwr Rhodri Lewis yn symud ymlaen i gyfleoedd newydd.

Yn ogystal, bydd Tom Phillips a Steff Jac Jones o’r Academi Hŷn yn gadael y clwb yr haf hwn.

Mae’r Scarlets hefyd yn ffarwelio â’r Hyfforddwr Cynorthwyol Jared Payne, sy’n gadael ar ôl tri tymor yng Ngorllewin Cymru.

Dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi Dros Dro’r Scarlets, Nigel Davies: “Mae hwn bob amser yn un o’r rhannau anoddaf o rygbi proffesiynol oherwydd y tu ôl i bob enw mae person sydd wedi rhoi lot i’r clwb, yr amgylchedd a’r crys.

“Pan fydd cefnogwyr yn gweld y tîm yn rhedeg i’r cae ddydd Sadwrn, maen nhw’n ddealladwy yn canolbwyntio ar y garfan sydd ar y cae, ond mae pob chwaraewr o fewn y garfan ehangach yn cyfrannu at y safonau, y gystadleuaeth a’r diwylliant sy’n gyrru’r grŵp ymlaen.

“Rydyn ni’n siarad llawer am gysylltiad yn y Scarlets ac mae pob un o’r unigolion hyn wedi gadael eu marc ar y clwb hwn mewn gwahanol ffyrdd, ar y cae, o fewn yr amgylchedd a gyda’r cefnogwyr.

“Wrth gwrs, mae emosiwn pan fydd pobl yn symud ymlaen, yn enwedig chwaraewyr y mae cefnogwyr wedi meithrin cysylltiad cryf â nhw dros nifer o flynyddoedd. Ond dyna realiti rygbi proffesiynol hefyd. Mae carfannau’n esblygu, mae cylchoedd yn newid ac mae rhan o adeiladu ar gyfer y dyfodol yn cydbwyso parhad, datblygiad a chyfleoedd newydd.

“Yr hyn sy’n bwysig yw ein bod yn parchu ac yn cydnabod yn llawn y cyfraniad y mae’r chwaraewyr hyn wedi’i wneud tra hefyd yn parhau i symud y garfan ymlaen gydag eglurder ac uchelgais.

“Rydym yn gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni ar recriwtio a chadw chwaraewyr a bydd ein cefnogwyr a’n partneriaid yn gweld cyhoeddiadau cadarnhaol pellach yn yr wythnosau nesaf. Mae penderfyniad cryf i adeiladu carfan sy’n adlewyrchu’r hunaniaeth, y dyfnder a’r uchelgais a ddisgwylir yn y clwb hwn.”

Talodd Nigel deyrnged arbennig i Jake Ball, a fydd yn ymddeol yn dilyn gêm BKT URC ddydd Sadwrn yn erbyn y Dreigiau.

“Mae Jake wedi bod yn ffigwr enfawr i’r Scarlets dros ddau gyfnod gyda’r clwb ac mae’n haeddu cydnabyddiaeth enfawr am yr hyn y mae wedi’i gyflawni,” ychwanegodd.

“Mae wedi cynrychioli’r rhanbarth gyda rhagoriaeth ers dros ddegawd a bydd cefnogwyr yn ei gofio’n briodol fel un o ail reng rhagorol yr oes broffesiynol yma.

“Mae chwarae gyda’r cysondeb, y corfforoldeb a’r ymrwymiad y mae wedi’i ddangos dros gynifer o flynyddoedd ar lefel y clwb a rhyngwladol yn gamp aruthrol ac mae pawb yn y Scarlets yn dymuno’r gorau iddo ef a’i deulu yn eu hymddeoliad.”

Bydd cyfle i gefnogwyr ffarwelio yn dilyn gêm Pencampwriaeth Rygbi Unedig BKT yn erbyn y Dreigiau ym Mharc y Scarlets ddydd Sadwrn pan fydd cyflwyniad i’r chwaraewyr ar ddiwedd y gêm.

Mae trafodaethau’n parhau gydag aelodau eraill y garfan, a byddwn yn cadarnhau’r holl chwaraewyr sydd wedi’u cadw ar gyfer tymor 2026-27 yn yr wythnosau nesaf.

Jared Payne

Ymunodd Payne â’r Scarlets yn haf 2023 o glwb Clermont Auvergne yn Ffrainc, gan gymryd cyfrifoldeb am ymosodiad a chefnwyr y clwb i ddechrau cyn goruchwylio’r rhaglen amddiffyn yn ddiweddarach. Yn gyn-chwaraewr rhyngwladol i Iwerddon a’r Llewod, mae Payne wedi dod â chyfoeth o brofiad i grŵp hyfforddi’r Scarlets ac wedi chwarae rhan bwysig wrth gefnogi datblygiad nifer o chwaraewyr ifanc sydd wedi dod i’r amlwg yn ystod ei gyfnod yng ngorllewin Cymru.

Jake Ball

Mae Jake wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o rygbi yn dilyn gêm olaf y tymor ddydd Sadwrn yn erbyn y Dreigiau. Dychwelodd Jake i Lanelli yr haf diwethaf am ail gyfnod gyda’r clwb ar ôl treulio naw mlynedd yn sefydlu ei hun fel ffigur annatod i’r clwb a’r wlad. Yn aelod o garfan y Scarlets a enillodd deitl Guinness Pro12 yn 2016-17 a chyrhaeddodd rownd derfynol y Pro14 a rownd gynderfynol Cwpan y Pencampwyr y flwyddyn ganlynol, mae Jake i ymddeol gyda 148 o ymddangosiadau i’r Scarlets a 50 cap i Gymru i’w enw, gyda’i yrfa rhyngwladol yn cynnwys ymgyrch Camp Lawn y Chwe Gwlad a dwy rownd gynderfynol Cwpan y Byd.

Tom Rogers

Yn frodor o Gefneithin, datblygodd Tom trwy Academi’r Scarlets, ac mae wedi chwarae 89 gêm i’r clwb ers gwneud ei ymddangosiad cyntaf i’r dîm hŷn yn 2017. Yn gyfforddus fel cefnwr neu asgellwr, mae Tom wedi cynrychioli Cymru dan 20, tîm 7 bob ochr Cymru ac wedi ennill 13 cap i Gymru, gan sgorio hat-tric cofiadwy yn erbyn y Crysau Duon yng Nghaerdydd. Mae’r chwaraewr 27 oed, sydd wedi sgorio 22 cais mewn crys Scarlets, yn ymuno â’r Gweilch.

Marnus van der Merwe

Wedi ymuno o’r Toyota Cheetahs ar gyfer dechrau ymgyrch 2024-25, mae Marnus wedi gwneud 42 ymddangosiad i’r Scarlets, gan sgorio tair cais. Gwnaeth argraff ar unwaith yn ei dymor cyntaf yn Llanelli, gan ennill gwobr chwaraewr y tymor y cefnogwyr a chael ei enwi yn ‘Elite XV’ yr URC. Roedd ei berfformiadau arbennig yng ngorllewin Cymru yn ddigon i ddenu sylw hyfforddwyr De Affrica a chafodd gyfle i gynrychioli ei wlad. Mae Marnus yn croesi Môr Iwerddon i Munster ar gyfer y tymor nesaf.

Max Douglas

Dechreuodd Max ei yrfa gyda’r Waratahs yn Super Rugby, cyn symud i Lanelli yn haf 2024 ar ôl cyfnod gyda Yokohama Canon Eagles yn Siapan. Mae wedi chwarae 34 gêm yn ei gyfnod gyda’r Scarlets, gan ddechrau 32 o’r gemau hynny a sgori un cais. Mae e’n flaenwr amryddawn sy’n gallu chwarae yn yr ail reng a’r reng ôl. Mae Max yn symud dramor.

Alec Hepburn

Mae’r prop pen rhydd rhyngwladol sydd wedi cynrychioli’r Alban wedi chwarae 34 gêm mewn dau dymor ers cyrraedd o Exeter Chiefs yn 2024. Yn ystod ei gyfnod yng ngorllewin Cymru, cafodd ‘Heps’ ei alw’n ôl i rygbi rhyngwladol ac roedd yn rhan o grŵp teithiol yr Alban yr haf diwethaf – gan chwarae yn erbyn y Maori o Seland Newydd a Ffiji – a chafodd ei alw i hyfforddi gyda charfan Chwe Gwlad 2026 Gregor Townsend cyn eu gêm derfynol yn erbyn Iwerddon. Mae wedi arwyddo gyda Caeredin.

Ben Williams

Yn gynnyrch Clwb Rygbi Gilfach Goch, disgleiriodd Ben i Glwb Rygbi Llanelli yn Uwch Gynghrair Cymru cyn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i’r Scarlets mewn gêm URC yn erbyn Caeredin yn 2023. Mae wedi mynd ymlaen i wneud 27 ymddangosiad i’r clwb, gan gynnwys gemau yng Nghwpan Her Ewrop yn Ffrainc yn erbyn Castres Olympique a Clermont Auvergne yn ystod ymgyrch 2023-24.

Rhodri Lewis

Wedi’i lofnodi o’r Gweilch yn 2024, gwnaeth cyn-fewnwr Cymru dan 20 ei ymddangosiad cyntaf i’r Scarlets mewn gêm gyfeillgar yng Nghaerfyrddin. Mae wedi creu argraff i Qwins Caerfyrddin yn y SRC.

Dan Gemine

Daethpwyd â Dan i hyfforddi gyda’r garfan yn yr haf, tra hefyd yn chwarae i Lanymddyfri yn y SRC. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn URC i’r Scarlets fel eilydd yn erbyn y Lions yn Johannesburg a chwaraeodd hefyd yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Harlequins ym mis Tachwedd.

Academi Hŷn

Fe fydd y prop Tom Phillips a’r maswr Steff Jac Jones yn gadael yr academi. Dymunwn pob lwc i’r ddau ohonynt am ddyfodol disglair yn y gêm.