Scarlets yn croesawu Aaron Dundon fel Hyfforddwr Arweiniol y Blaenwyr

Rob LloydFeatured

Mae’r Scarlets yn falch iawn o gyhoeddi bod Aaron Dundon wedi ymuno â’r rhanbarth fel Hyfforddwr Arweiniol y Blaenwyr ar gyfer tymor 2026-27.

Ceir ei adnabod fel un o hyfforddwyr blaenwyr gorau rygbi Iweddon, daw Dundon i orllewin Cymru gyda enw da am ei waith technegol arbennig, gwaith paratoi arbennig a’r gallu i baratoi blaenwyr i berfformio ar y lefel uchaf yn gyson ac o dan bwysau.

Ganwyd yn Seland Newydd, ac yn gyn chwaraewr gyda Leinster (49 cap), mae Dundon wedi magu profiad hyfforddi ar draws y gêm broffesiynol, gan weithio gyda Leinster, Iwerddon dan 20, FC Grenoble, Ulster a La Rochelle ac mae wedi hyfforddi ym Mhencampwriaeth Daleithiol Genedlaethol Seland Newydd (Tasman Mako Rugby NZ) – gan roi profiad arbennig iddo o systemau rygbi mwyaf blaenllaw ar draws y byd.

Mae ei athroniaeth wedi ei selio ar waith paratoi di-baid, atebolrwydd a chreu amgylcheddau lle mae chwaraewyr yn herio eu hunain yn barhaus i wella.

Mae Dundon yn cyrraedd y Scarlets o dîm hyfforddi Leinster Rugby ar ôl tymor a welodd y dalaith Wyddelig yn ennill teitlau Pencampwriaeth Rygbi Unedig BKT trawiadol yn olynol.

Fel Hyfforddwr Arweiniol Blaenwyr y Scarlets, fe fydd Dundon yn goruchwylio rhaglen blaenwyr y Scarlets, gan ddod â’r sgrym, llinell, y sgarmes ac ardal y dacl mewn i un hunaniaeth a gyrru safonau i adeiladu pecyn corfforol, cystadleuol sy’n gallu herio’r timau gorau yn URC.

Mae penodiad Dundon yn rhan o gryfhau ehangach grŵp hyfforddi’r Scarlets wrth i’r paratoadau barhau ar gyfer tymor newydd Pencampwriaeth Rygbi Unedig BKT. Bydd yn gweithio ochr yn ochr â hyfforddwr llinell arbenigol presennol y Scarlets, Albert van de Berg, a Bradley Davies (Ardal y Dacl).

Dywedodd Nigel Davies: “Mae Aaron yn rhywun sydd wedi cael ei argymell gan bobl yr wyf yn ymddiried yn fawr yn eu barn. Daeth pob sgwrs yn ôl at yr un rhinweddau; ei arbenigedd technegol, ei baratoad, ei sylw i fanylion a’i allu i ddatblygu pecynnau blaengar sy’n perfformio’n gyson o dan bwysau.

“Mae wedi datblygu o fewn un o’r systemau hyfforddi cryfaf ym myd rygbi ac wedi gweithio ochr yn ochr â rhai hyfforddwyr rhagorol drwy gydol ei yrfa. Yr un mor bwysig, mae’n angerddol am ddatblygu chwaraewyr, meithrin perthnasoedd cryf a gyrru safonau’n barhaus. Mae’n hyfforddwr sy’n edrych ymlaen ac sy’n herio safonau, yn cofleidio arloesedd ac yn meithrin perthnasoedd cryf gyda chwaraewyr.”

“Roedden ni eisiau rhywun a allai arwain ein rhaglen ymosod gan sicrhau bod pob maes yn gweithio gyda’i gilydd. Mae Aaron yn dod â’r arweinyddiaeth honno, ond mae hefyd yn deall pwysigrwydd cydweithio.”

“Mae Albert (van den Berg) yn gwneud gwaith rhagorol yn y Scarlets wrth ddatblygu ein tîm i gael un o’r llinellau cryfaf yng nghystadleuaeth URC ac mae ei arbenigedd yn parhau i fod yn rhan hynod bwysig o’n grŵp hyfforddi. Mae dod ag Aaron i’r amgylchedd yn caniatáu inni adeiladu ar y cryfderau hynny wrth greu gwell aliniad ar draws pob agwedd ar ein chwarae ymosodol.”

Talodd Davies deyrnged hefyd i Emyr Phillips, sydd wedi cefnogi’r garfan uwch gyda’r sgrym ac ar yr un pryd wedi arwain Academi’r Scarlets. Bydd Phillips nawr yn symud i rôl amser llawn yn arwain Academi’r Scarlets yn 2026-27.

Ychwanegodd Davies: “Hoffwn hefyd gydnabod y cyfraniad rhagorol y mae Emyr Phillips wedi’i wneud wrth gydbwyso hyfforddi uwch sgrymiau ochr yn ochr ag arwain ein hacademi dros yr ychydig dymhorau diwethaf. Mae penodiad Aaron bellach yn caniatáu i Emyr ganolbwyntio’n llawn ar ei rôl hanfodol yn ein Hacademi a datblygu’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr y Scarlets, sy’n hanfodol i ddyfodol hirdymor ein clwb.”

Dywedodd Aaron Dundon: “Mae ymuno â chlwb sydd â hanes, uchelgais a hunaniaeth y Scarlets yn gyfle gwych ac un rwy’n hynod gyffrous amdano.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda Dwayne Peel, Nigel Davies a gweddill y tîm hyfforddi i helpu i yrru’r clwb ymlaen.

“Mae fy athroniaeth hyfforddi wedi’i seilio ar baratoi di-baid, sylw i fanylion a chreu sefyllfa sefydlog sy’n rhoi llwyfan gwirioneddol i’r tîm chwarae. Gyda sefyllfa sefydlog gorfforol a dominyddol, gall y chwaraewyr talentog yn y garfan hon fynegi eu hunain a chwarae’r brand cyffrous ac eang o rygbi y mae’r Scarlets yn enwog amdano.”

“Mae yna botensial enfawr o fewn y grŵp hwn. Mae gan y clwb garfan wych sy’n datblygu ac rwy’n gyffrous am yr hyn y gallwn ei gyflawni gyda’n gilydd. Mae angerdd a chefnogaeth cefnogwyr y Scarlets yn adnabyddus ledled y gêm yn fyd-eang ac alla i ddim aros i ddechrau a helpu i gryfhau’r tîm ac adeiladu perfformiadau y mae’r rhanbarth yn uniaethu â nhw ac yn falch ohonynt.”