Scarlets yn dangos newidiadau i wynebu’r Dreigiau ar Ddydd Calan

Rob LloydFeatured

Bydd y Scarlets yn herio’r Dreigiau ar Ddydd Calan (15:00; S4C & Premier Sports), gan ddangos sawl newid i’r tîm ers y frwydr yn erbyn y Gweilch ar Ŵyl San Steffan.

Mae’r prif hyfforddwr Dwayne Peel wedi penderfynu ar chwe newid i’r tîm a phum newid safle.

Ar ôl gwella o anaf i’w goes mae Ioan Nicholas i gychwyn yn safle’r cefnwr, gydag Ellis Mee yn newid i’r asgell chwith.

Yng nghanol cae, Joe Roberts sy’n newid o’r asgell i gychwyn fel canolwr lle fydd yn bartner i Eddie James sy’n gwisgo crys rhif 12. Joe Hawkins a Gareth Davies sy’n parhau’r bartneriaeth fel haneri.

Mae mwy o newidiadau i’r rheng flaen.

Mae Kemsley Mathias wedi gwella o anaf afl a wnaeth ei orfodi i golli’r gêm yn erbyn y Gweilch ac yn cychwyn yn safle prop pen rhydd, gan gydweithio â’r bachwr Marnus van der Merwe a’r pen tynn Henry Thomas.

Gyda Jake Ball wedi’i anafu ar ôl gêm Ŵyl San Steffan, mae Harvey Cuckson wedi’i ail alw i’r ail reng, gyda Max Douglas yn ei ymuno.

Y capten Josh Macleod sydd wedi cwblhau’r protocol anaf pen i ddod nôl i arwain y tîm o’r ochr agored gan weld Taine Plumtree yn symud ar draws y rheng ôl i’r ochr dywyll. Fletcher Anderson, a wnaeth y mwyaf o gario nag unrhyw chwaraewr arall yn yr wythfed rownd o’r URC, sydd yn parhau yng nghrys rhif 8.

Ymysg yr eilyddion, y chwaraewr rhyngwladol i Tonga Sam Lousi fydd yn gwneud ei 100fed ymddangosiad i’r Scarlets os yw’n dod oddi’r fainc.

Y prop pen rhydd Josh Morse, a’r cefnwr 18 oed Carwyn Leggatt-Jones – y ddau yn aelod o Academi’r Scarlets – sydd hefyd wedi’u cynnwys yn y garfan.

Mae 14 o’r garfan o 23 wedi datblygu trwy lwybr y Scarlets.

Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Pee: “Roedd y canlyniad ar Ŵyl San Steffan yn siomedig i ni gyd. Mae wedi bod yn bwysig i ni i baratoi’n dda a throi’n ffocws ar wynebu’r Dreigiau. Mae’r gemau nesaf yn dod rownd yn gyflym ac mae hyn yn gêm bwysig a heriol arall i ni. Mae’r Dreigiau’n chwarae’n dda ar hyn o bryd ac mae rhaid i ni ganolbwyntio ar fynd i Rodney Parade llawn egni a sbarc.”

Tîm y Scarlets i wynebu’r Dreigiau ar ddydd Iau, Ionawr 1 (15:00; S4C & Premier Sports)

15 Ioan Nicholas; 14 Tom Rogers, 13 Joe Roberts, 12 Eddie James, 11 Ellis Mee; 10 Joe Hawkins, 9 Gareth Davies; 1 Kemsley Mathias, 2 Marnus van der Merwe, 3 Henry Thomas, 4 Max Douglas, 5 Harvey Cuckson, 6 Taine Plumtree, 7 Josh Macleod (capt), 8 Fletcher Anderson.

Eilyddion: 16 Ryan Elias, 17 Josh Morse, 18 Harri O’Connor, 19 Sam Lousi, 20 Dan Davis, 21 Archie Hughes, 22 Carwyn Leggatt-Jones, 23 Macs Page.

Ddim ar gael oherwydd anaf/salwch

Archer Holz, Blair Murray, Jake Ball, Johnny Williams, Sam Costelow, Ioan Jones, Isaac Young.