Mae’r Scarlets yn falch iawn o gyhoeddi aelodaeth ddigidol newydd i ddod a chefnogwyr o bedwar ban byd yn agosach at y clwb nag erioed o’r blaen.
Fe fydd yr aelodaeth newydd yn cynnig profiadai digidol, mynediad tu ôl i’r llenni, straeon emosiynol, a chysylltiad agosach at y clwb, ei phobl a’i threftadaeth.
Boed eich bod yn gefnogwr brwd o’r Scarlets, yn cefnogi o bell, neu’n chwilio am yr anrheg perffaith ar gyfer y person arbennig yn eich bywyd, mae Aelodaeth Rhyngwladol y Scarlets yn ffordd perffaith o gadw mewn cysylltiad.
Yn fwy na thanysgrifiad, mae’r aelodaeth wedi’i adeiladu o amgylch un syniad hawdd:
Lle bynnag ry’ch chi’n byw, chi’n rhan o deulu’r Scarlets.
O Lanelli i Batagonia, Melbourne i Toronto, Dubai i Efrog Newydd, fe fydd cefnogwyr yn cael mynediad i gartref digidol newydd er mwyn dathlu’r hunaniaeth, angerdd a thraddodiadau sy’n gwneud y Scarlets yn unigryw.
Fe fydd eich aelodaeth hefyd yn cefnogi cenhedlaeth nesaf y Scarlets trwy’r academi a rygbi cymunedol.
Dywedodd Jon Daniels, Rheolwr Gyfarwyddwr y Scarlets: “Mae’r Scarlets wastad wedi bod yn fwy na chlwb. Mae’n cynrychioli cymunted, hunaniaeth, teulu, a pherthyn i genedlaethau o bobl yma yng ngorllewin Cymru ac ar draws y byd.
“Ry’n ni’n ymwybodol iawn bod cefnogwyr yn cadw’r Scarlets gyda nhw lle bynnag y maen nhw’n byw, ac mae’r aelodaeth newydd yma am wneud yn siwr eu bod nhw’n teimlo agosatrwydd at adref, yn gysylltiedig â’r crys, ac yn gysylltiedig â’i gilydd.”
Fe fydd yr aelodaeth yn cynnwys:
- Neges fideo bersonol gan hyfforddwr neu chwaraewr y Scarlets i’ch croesawu i’r clwb
- Cylchlythyr digiol misol “Llythyr o Lanelli”
- 1x Sesiwn Holi ac Ateb ar-lein gyda hyfforddwr neu chwaraewr y Scarlets, dyddiad ac amser i’w cadarnhau
- Straeon gan rai o’r enwau mawr yn hanes y Scarlets
- Straeon cefnogwyr rhyngwladol ar ein gwefan a chyfryngau cymdeithasol
Mae’r aelodaeth newydd wedi ei gynllunio yn benodol i greu cysylltiadau emosiynol i gefnogwyr sy’n methu mynychu gemau’n reolaidd ond yn dal i deimlo’r clwb yn rhan annatod o’u bywydau a’u hunaniaeth.
Diolch am fod yn rhan o’r daith. Gyda’n gilydd, rydym yn edrych ymlaen at dymor bythgofiadwy arall mewn sgarlet!
Lle bynnag ydych chi’n y byd, chi byth yn bell o adre’.
Ymunwch â Hiraeth heddiw am £49, cliciwch yma
