Mae’r Scarlets yn falch iawn o gyhoeddi bod y bachwr John McKee yn ymuno â’r garfan o Leinster ar gyfer tymor 2026-27.
Daw’r bachwr 26 mlwydd oed â llawer o brofiad ym Mhendcampwriaeth Rygbi Unedig BKT a Chwpan Pencampwyr Investec, gyda 46 ymddangosiad i Leinster ac wedi sgori pum cais yn ystod ei amser yn Nulyn.
Yn chwaraewr rhyngwladol dan 18 a dan 20 Iwerddon, ganwyd McKee ym Melffast ac fe ddechreuodd ei yrfa yn nhimau ieuenctid Ulster. Fe ddaeth trwy Academi Leinster cyn gwneud ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf yn erbyn y Sharks yn Durban yn 2022.
Ers hynny, mae wedi datblygu yn un o amgylcheddoedd mwyaf cystadleuol yn rygbi Ewropeaidd, gan frwydro yn erbyn bachwyr y Llewod Dan Sheehan a Ronan Kelleher am amser ar y cae, ac mae wedi chwarae naw gêm i Leinster eleni.
Gyda Marnus van der Merwe yn symud ymlaen dros yr haf, fe fydd McKee yn ychwanegu safon, cryfder a phrofiad i’r grwp o fachwyr yng ngharfan y Scarlets sy’n cynnwys y chwaraewr rhyngwladol Ryan Elias a dau fachwr ifanc a chyffrous yn Harry Thomas ac Isaac Young.
Dywedodd Nigel Davies, Cyfarwyddwr Rygbi dros dro y Scarlets: “Mae John yn chwaraewr ry’n ni’n gyffrous iawn i’w gyflwyno i’r Scarlets oherwydd mae’n gweddu i’r math o chwaraewr ry’n ni am ei weld yn y garfan.
“Mae’n dod ato ni o amgylchedd arbennig yn Leinster lle mae safonau yn uchel tu hwnt o ddydd i ddydd ac ry’n ni o’r farn y bydd y profiad hwnnw yn hynod o werthfawr i ni.
“Mae e’n gorfforol, yn gystadleuol ac mae wedi profi ei hun ar lefel URC a Chwpan Pencampwyr, er ei fod yn brwydro yn erbyn dau o fachwyr gorau’r byd am gyfleoedd.
“Yr hyn a darodd ni hefyd oedd pa mor awyddus oedd ef i ddod yma, i gystadlu a datblygu ei gêm. Ry’n ni eisiau chwaraewyr sy’n uchelgeisiol, sydd eisiau herio’i hunain ac sy’n gyffrous gyda sut mae’r grwp yma’n datblygu.
“Ry’n ni’n meithrin cystadleuaeth wirioneddol ar draws y garfan oherwydd dyna sy’n gyrru safonau ac yn gwella perfformiadau. Ry’n ni wedi gweld yr effaith gadarnhaol y mae cystadleuaeth wedi’i chael o fewn y grwp dros y ddau dymor diwethaf a bydd Johon yn ychwanegu’n gryf at hynny.”

Wrth siarad am y newyddion, dywedodd McKee: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at symud. Roedd y cyfle i ymuno â’r Scarlets yn un yr oeddwn i’n gyffrous amdano’n syth ac o’r sgwrs cyntaf y ges i gyda Nigel, Dwayne a Cubby, roedd yr angerdd sydd gyda nhw at y clwb yn amlwg.
“Rwy’n edrych ymlaen at gyrraedd, cyfarfod y bois, y staff, a chysylltu â’r cefnogwyr a gobeithio ychwanegu at yr amgylchedd.
“Roeddwn i’n chwaraewr wrth gefn tymor diwethaf pan drechodd y Scarlets Leinster yn Llanelli ac rwy’n cofio meddwl ar y pryd gymaint oedd angerdd a chefnogaeth y dorf.
“Mae hwn yn ddechrau newydd i fi, rwyf wedi mwynhau fy nghyfnod gyda Leinster, ond fel pob chwaraewr, rwy’n awyddus i chwarae yn fwy rheolaidd.
“Rwy’n deall nad yw’r Scarlets wedi cael y canlyniadau tymor yma, ond mae sawl un o’r gemau wedi bod yn agos ac mae’n hawdd gweld y cyfeiriad y mae’r tîm yn mynd iddi, y talent ifanc sy’n datblygu a’r steil o gêm maent eisiau chwarae. Rwy’n edrych ymlaen at fod yn rhan o hynny.”
McKee yw’r trydydd chwaraewr newydd i ymuno â’r Scarlets, gan gynnwys y prop Corey Domachowski (Caerdydd) a’r clo Harvey Cuckson (Caerfaddon).
Mae’r capten Josh Macleod, yr wythwr Fletcher Anderson, a’r blaenasgellwr Dan Davis wedi arwyddo cytundebau newydd yn ogystal â Jac Davies sy’n graddio o’r Academi.

