Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyrraedd Llantwd am wythnos o hwyl, diwylliant a chystadlu reit yng nghanol gorllewin Cymru,.
Mae Sefydliad Gymunedol y Scarlets yn bresennol yn yr wyl trwy gydol yr wythnos gyda gweithgareddau i blant o bob oed.
Fe fydd cyfle i chi ddydd Mercher 5 Awst i gymryd rhan mewn sesiwn ymarfer gyda Josh Macleod, Ioan Nicholas, Jac Price, Macs Page ac Elis Price cyn cael cyfle i’w cyfarfod a thynnu hunluniau a chasglu llofnodion.
Dewch draw erbyn 11 o’r gloch am sesiwn hwylus gyda’r Scarlets cyn mynd i fwynhau holl weithgareddau y Maes.

