Mae cyn ganolwr Scarlets a Chymru Scott Williams yn dychwelyd i’r Parc i helpu ddatblygu’r cenhedlaeth nesaf fel hyfforddwr sgiliau yr academi.
Yn aelod o’r tîm a wnaeth ennill teitl y PRO12 yn 2016-17, chwaraeodd Scott 162 gêm i’r clwb yn ystod ei yrfa gyda 58 cap rhyngwladol, dau teitl Chwe Gwlad ac yn gapten ar ei wlad.
Ers ymddeol, mae Scott wedi hyfforddi gyda’r timau gradd oedran y Scarlets, yn ogystal â’r Academi Rygbi Coleg Sir Gâr a Chlwb Rygbi Cwins Caerfyrddin yn Super Rygbi Cymru, yn gweithio gyda rhai o chwaraewyr ifanc a chyffrous Academi’r Scarlets.
Mae rôl yr Academi mewn partneriaeth â Academi Rygbi Coleg Sir Gâr, lle mae Scott yn gweithio fel hyfforddwr ymosod.
Dywedodd Rheolwr Llwybr Datblygu’r Academi Emyr Phillips: “Mae’n wych i gael rhywun gyda chymaint o brofiad â Scott yn ymuno’r Academi.
“Fel un o’r chwaraewyr mwyaf uchel ei barch o’r gêm fodern ym Mharc y Scarlets, mae Scott yn unigolyn sydd wastad wedi codi’r safon iddo’i glwb a’i wlad, a bydd hyn yn dangos yn ei steil o hyfforddi hefyd.
“Yn barod mae Scott wedi gweithio’n agos gyda sawl un o chwaraewyr ein Academi, yn enwedig bois fel Madoc Evans, Jayden Brown ac Alfie Luger yn y system D18 ac hefyd gyda’r Cwins yn SRC.
“Mae Scott yn berson sydd yn ymwybydol o’r rhinweddau sydd angen i gyrraedd yr uchelfannau fel chwaraewyr proffesiynol ac mae ei bresenoldeb yn yr Academi yn amrhisiadwy i’r bois gyrraedd y nod hwnnw.
Fel rhan o’r rôl, bydd Scott yn gweithio ar draws y llwybr datblygu, gyda staff yr academi, Coleg Sir Gâr, Hyfforddwyr Dewar Shield y Scarlets ac hyfforddwyr y Rhaglen EPP.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau,”dywedodd. “Yn amlwg, mae Parc y Scarlets wedi chwarae rhan enfawr yn fy mywyd; datblygais trwy’r academi yma, gan treulio 12 tymor yma fel chwaraewr ac rwy’n hapus iawn i ddychwelyd fel hyfforddwr.
“Mae gan y Scarlets hanes balch o ddatblygu talent ifanc a’u gweld nid yn unig yn cyrraedd y gyrfa proffesiynol, ond rhyngwladol hefyd.
“Dwi wedi gweld y talent sydd gyda ni yma yng ngorllewin Cymru ac rwy’n falch iawn i chwarae rhan yn eu datblygiad.”
