Sosbanfest i ddod â’r parti i Barc y Scarlets

Rob LloydFeatured

Fe fydd y cefnogwyr sy’n heidio i Barc y Scarlets ar ddydd Sadwrn 16 Mai yn cael cyfle i fwynhau mwy na rygbi, gyda Sosbanfest i gymryd drosodd cyn ac ar ôl y gêm pan fydd Scarlets yn wynebu’r Dreigiau, cic gyntaf 17:15.

Mae Sosbanfest yn addo trawsnewid diwrnod y gêm i ddigwyddiad llawn adloniant, gan greu awyrgylch gwyl i’r cefnogwyr a fydd yn y stadiwm ar gyfer y gêm fawr yn y Bencampwriaeth.

Mynediad i’r cae

Yn dilyn y chwiban olaf, fe fydd croeso i’r cefnogwyr gael mynediad i’r cae i gasglu llofnodion a hunluniau gyda’r chwaraewyr a chymysgu gyda chyd-gefnogwyr.

Dewch â blanced bicnic gyda chi i eistedd ar y cae a mwynhau’r adloniant.

Cyflwyniadau chwaraewyr

Fe fydd y cefnogwyr yn gallu dangos eu diolch i’r chwaraewyr a fydd yn gadael ar ddiwedd y tymor.

Cerddoriaeth ac adloniant byw

Mwynhewch yr adloniant yn Yr Ardd, tu allan i Arena FSG, lle bydd Lauren Fisher yn canu cyn y gic gyntaf.

Fe fydd y gweithgareddau arferol hefyd ar gael yn Arena FSG, gyda’r drysau’n agor am 14:00.

Ar ôl y gêm fe fydd perfformiad gan Gôr Dyffryn Taf, ac yna fe fydd DJ yn chwarae set i gadw’r egni i fynd.

Bwyd a diod

Fe fydd Sosbanfest yn cynnwys amrywiaeth o fwyd a diod. Yn ogystal ag adloniant ychwanegol, fe fydd yn ddigwyddiad llawn hwyl i’r teulu oll.

Tocynnau i’r gêm

Prynnwch eich tocynnau’n gynnar a chymerwch fantais o brisiau cynnar hyd nes Gwener 8 Mai.

Prynnwch nawr