Tair wythnos i fynd nes gêm Scarlets a Chaerdydd!

Rob LloydNewyddion

Rydym yn cyfri i lawr i’r gêm fawr nesaf ym Mharc y Scarlets – Gêm Darbi y Gorllewin v y Dwyrain yn erbyn Caerdydd.

Nid yw gêm Scarlets v Caerdydd erioed wedi siomi cefnogwyr, gyda bois y Gorllewin Gwyllt yn cipio’r fuddugoliaeth yn y brifddinas nôl ym mis Rhagfyr.

Gyda thair gêm darbi i ddod yn ein pedair gêm olaf o’r tymor, mae diweddglo’r ymgyrch yn gaddo i fod yn un gyffrous ac mae gennych tan Dydd Gwener, Ebrill 10 i brynu eich tocyn pris cynnar YMA

Gyda Gŵyl rygbi tag yn cymryd lle cyn y gic gyntaf, bydd digon o adloniant oddi ar y cae i fwynhau, gyda thema’r ‘Gorllewin Gwyllt’ yn dominyddu’r diwrnod. Gobeithio cawn weld y haul yn disgleirio i lawr ar y Parc am ddiwrnod wych o rygbi i’r teulu.

Rydym yn disgwyl i feisiau parcio i fod yn brysur gyda’r ŵyl rygbi yn cymryd lle o flaen llaw, felly i osgoi’r ffwdan archebwch sedd ar ein bws wennol, sydd yn rhedeg o Orllewin Cymru i’r stadiwm. ARCHEBWCH YMA.

Cadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am fwy o wybodaeth wrth i ddiwrnod agosâi.