Yn awyddus i wneud cynlluniau ar gyfer y gwanwyn? Rydym yn falch iawn o gadarnhau bod tocynnau ar gael nawr ar gyfer gemau cartref am weddill y tymor ym Mharc y Scarlets.
Fe fydd y rygbi yn ail ddechrau ym Mharc y Scarlets nos Sadwrn yma gyda’r Scarlets yn croesawu Section Paloise ym Mhencampwriaeth Pencampwyr Investec.
Bydd y gêm yma yn gyfle i ni ddiolch i wasanaethau brys a lluoedd arfog am eu gwaith yn gofalu am ein cymunedau.
Bydd gweithgareddau ychwanegol yn Arena FSG gan y Fyddin, y Llynges, y Llu Awyr, Heddlu Dyfed Powys, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, RNLI a’r Royal British Legion.
Mae tocynnau ar gael yma
Mae tocynnau ar gael hefyd ar gyfer gemau cartref gweddill y tymor;
- Ulster, Sadwrn 24 Ionawr CG 15:00 – Dathlu’n Cymreictod
- Zebre, Gwener 20 Mawrth CG 19:45 – Diwrnod y Menywod
- Caerdydd, Sadwrn 18 Ebrill CG 17:30 – Wild West is Best
- Vodacom Bulls, Sadwrn 25 Ebrill CG 19:45 – Rownd y Plant
- Dreigiau, Sadwrn 16 Mai CG 17:15 – Diolch
I brynu tocynnau i’r gemau, cliciwch yma
I archebu’ch lle yn un o’n lolfeydd lletygarwch, cliciwch yma
