Gall y Scarlets gadarnhau y bydd Tom Rogers yn gadael y clwb ar ddiwedd tymor 2025-26 i ymuno â’r Gweilch.
Wedi graddio o Academi’r Scarlets, mae Tom wedi chwarae 88 gêm i’r clwb ers gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn 2017 ac mae wedi mynd ymlaen i ennill 13 cap rhyngwladol – adlewyrchiad o’i ddatblygiad a’i waith yng nghrys y Scarlets.
Dywedodd Nigel Davies, Cyfarwyddwr Rygbi Dros Dro y Scarlets: “Mae siwrne Tom yn esiampl o’r hyn y mae’r clwb yn ei gynrychioli; dod trwy’r system, datblygu fel chwaraewr a mynd ymlaen i gynrychioli dy wlad.
“Rydyn ni’n amlwg yn siomedig i weld Tom yn symud ymlaen, roedd cynnig cytundeb ar gael iddo i aros a pharhau â’i yrfa gyda’r Scarlets, ond rydyn ni’n deall ei benderfyniad am chwilio am her newydd.
“Mae wedi gwneud cyfraniad cryf i’r Scarlets dros sawl tymor ac mae wastad wedi cynrychioli’r clwb gyda balchder ac yn broffesiynol. Rydyn ni’n diolch iddo am hynny ac yn dymuno pob llwyddiant iddo yn y dyfodol.
“Mae ein ffocws ni nawr yn glir. Rydyn ni’n adeiladu carfan sy’n gystadleuol ac yn gallu symud y clwb yma ymlaen.
“Mae yna ddyfnder a chryfder yn datblygu yn y tri ôl, gyda grwp sy’n cyfuno chwaraewyr rhyngwladol a thalent ifanc sy’n datblygu’r trwy’n system. Mae hynny’n rhoi llwyfan gadarn i ni adeiladu arno.
“Rydyn ni’n ymrwymedig i ddatblygu chwaraewyr ein hunain, cryfhau mewn ardaloedd allweddol yn y garfan a chreu amgylchedd a fydd yn sicrhau llwyddiant. Mae momentwm go iawn yna deiladu yma ac ry’n ni’n gyffrous iawn am yr hyn sydd i ddod.”
Dywedodd Tom Rogers: “Rwyf wedi mwynhau fy amser gyda’r Scarlets. Mae bron i 10 mlynedd wedi mynd ers i mi ddod trwy’r Academu ac mae wedi bod yn anrhydedd cael chwarae cynifer o gemau ochr yn ochr â rai o’r goreuon. Diolch yn fawr iawn i’r chwaraewyr, staff, noddwyr ac wrth gwrs, y cefnogwyr sydd wedi dangos cefnogaeth arbennig, cartref ac oddi cartref, yn ystod fy nghyfnod yma.
“Mae yna bedair gêm fawr ar ôl y tymor yma ac mae ffocws pawb ar orffen y URC yn gryf.”
Fe fydd Tom yn cadw ei ffocws ar y Scarlets am weddill y tymor wrth i’r garfan barhau i wthio at ei amcanion.
Fe fydd mwy o newyddion am ddatblygiadau yn y garfan dros yr wythnos nesaf.
