Mae’r prif hyfforddwr Dwayne Peel wedi gwneud tri newid i dîm cychwynol y Scarlets ar gyfer gêm agoriadol ymgyrch Cwpan Pencampwyr Investec yn erbyn Bryste ym Mharc y Scarlets(20:00; S4C & Premier Sports).
Daw’r newidiadau tu ôl i’r sgrym gyda’r chwaraewyr rhyngwladol Tom Rogers, Johnny Williams ac Ellis Mee yn cymryd eu lle ymhlith yr olwyr.
Mae Rogers, a sgoriodd hatric hanesyddol yn erbyn y Crysau Duon yn ystod yr hydref, wedi gwella o anaf i linyn y gâr ac yn cymryd ei le ar yr asgell dee; daw Mee i fewn ar yr asgell chwith, tra bod Williams – a fethodd gêm penwythnos diwethaf yn erbyn Glasgow oherwydd asesiad anaf i’r pen – yn dychwelyd i ganol cae.
Parhau yng nghrys y cefnwr y mae Jac Davies gyda Blair Murray yn cario anaf. Cafwyd perfformiad cyflawn gan Davies yn erbyn Glasgow penwythnos diwethaf, ac fe fydd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf erioed yn Ewrop ddydd Sadwrn.
Mae Williams yn ymuno ag Eddie James yng nghanol cae gyda Gareth Davies a Sam Costelow yn parhau yn safle’r hanneri.
Yn dilyn perfformiad arwrol yn erbyn Glasgow, mae’r prif hyfforddwr wedi dangos hyder yn y pac gan gadw’r wyth yn union yr un peth.
Mae Kemsley Mathias, Ryan Elias ac Archer Holz yn dechrau yn y reng flaen, Jake Ball a Sam Lousi yn yr ail reng, tra bod Max Douglas – chwaraewr y gêm ddydd Sadwrn diwethaf – y capten Josh Macleod a’r wythwr Fletcher Anderson yn y reng ôl.
Nid yw Taine Plumtree ar gael oherwydd anaf i’w asen, a ddioddefodd yng ngêm Cymru yn erbyn De Affrica.
Nid yw’r clo Harvey Cuckson ar gael ar gyfer cystadleuaeth Cwpan Pencampwyr Ewrop, felly fe ddaw Jarrod Taylor i’r fainc, yn ogystal â’r chwaraewyr rhyngwladol Joe Hawkins a Joe Roberts.
Dywedodd y prif hyfforddwr Dwayne Peel; “Fe wnaethon ni siarad ar ddechrau’r wythnos am ba mor galed wnaethon ni weithio tymor diwethaf i gyrraedd rowndiau ail gyfle URC er mwyn gallu ail ymuno â’r Cwpan Pencampwyr ac mae’n wych cael bod nôl yn y gystadleuaeth am y tro cyntaf mewn tair blynedd.
“Rydyn ni’n dod i mewn i’r gêm ar gefn buddugoliaeth dda dros Glasgow, sydd wedi rhoi ychydig o fomentwm i ni ar ddechrau’r gystadleuaeth yma, ond ry’n ni’n gwbyod bod Bryste yn dîm da sy’n hoff iawn o daflu’r bêl o gwmpas. Fe ddylai fod yn frwydr cyffrous.
“Mae gan y clwb yma draddodiad balch yn Ewrop, rydyn ni wedi cael nosweithiau arbennig yma ym Mharc y Scarlets ac ar y Strade. Gobeithio y gwelwn ni dorf da, mae’r frwydr yn erbyn timau o Loegr wastad yn ychwanegu bach o dân ac fe allwn ni fwynhau achlysur arbennig arall yma.”
Tîm y Scarlets i wynebu Bryste nos Sadwrn, Rhagfyr 6 (20:00; S4C & Premier Sports)
15 Jac Davies; 14 Tom Rogers, 13 Eddie James, 12 Johnny Williams, 11 Ellis Mee; 10 Sam Costelow, 9 Gareth Davies; 1 Kemsley Mathias, 2 Ryan Elias, 3 Archer Holz, 4 Sam Lousi, 5 Jake Ball, 6 Max Douglas, 7 Josh Macleod (capt), 8 Fletcher Anderson.
Reps: 16 Marnus van der Merwe, 17 Sam O’Connor, 18 Henry Thomas, 19 Jarrod Taylor, 20 Dan Davis, 21 Dane Blacker, 22 Joe Hawkins, 23 Joe Roberts.
Yn absennol oherwydd anaf / salwch
Taine Plumtree, Blair Murray, Ioan Nicholas, Archie Hughes, Alec Hepburn, Tristan Davies, Jac Price, Will Evans, Dom Kossuth.
