Will Evans yn arwyddo ei gytundeb hŷn cyntaf

Nerys HenryFeatured

Mae Will Evans, clo Cymru dan 20, sydd wedi derbyn llawer o glod, wedi arwyddo ei gytundeb hŷn cyntaf gyda’r clwb.

Bydd y chwaraewr rhyngwladol, sydd wedi cynrychioli Cymru dan 20, yn ymuno â’r garfan hŷn ar gyfer tymor 2026-27, gan nodi carreg filltir bwysig yn natblygiad un o’r blaenwyr ifanc mwyaf cyffrous yn y Scarlets.

Cafodd Evans ei enwi’r wythnos hon fel un o bedwar Scarlet yng ngharfan Cymru ar gyfer Pencampwriaethau’r Byd dan 20 yr haf hwn yn Georgia.

Yn chwe troedfedd 6 modfedd ac yn pwyso 125kg, mae gan Evans yn gorfforol ac yn athletaidd, rhinweddau allweddol er mwyn gwneud argraff yn y gêm fodern. Yn gariwr pêl pwerus gyda meddylfryd ymosodol a set sgiliau trawiadol am chwaraewr o’i statws, mae’n cael ei ystyried yn flaenwr ifanc gyda photensial sylweddol.

Fe wnaeth cyfres o anafiadau rhwystredig yn ystod tymor 2025-26 ei atal rhag gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn URC i’r Scarlets, ond mae’n cael ei barchu’n fawr yn y clwb ac mae wedi cynhyrchu rhai perfformiadau nodedig i Lanymddyfri yn Super Rygbi Cymru ac mae’r Scarlets wedi parhau i fod yn ymrwymedig i’w ddatblygiad hirdymor.

Daeth ei bresenoldeb corfforol, ei natur gystadleuol a’i barodrwydd i herio chwaraewyr sefydledig â mantais amlwg i amgylchedd y tîm y tymor hwn ar ôl iddo ddychwelyd o anaf ac atgyfnerthu’r cyffro ynghylch ei ddyfodol.

Mae Nigel Davies, Cyfarwyddwr Rygbi Dros Dro y Scarlets, yn credu bod gan Evans yr holl briodoleddau sydd eu hangen i ddod yn chwaraewr pwysig i’r clwb.

“Rydym yn gyffrous iawn am Will a’r hyn sydd i ddod.”

“Dyw chwaraewyr gyda’i broffil corfforol ddim yn ymddagnos bob dydd. Mae ganddo faint, pŵer ac athletiaeth wirioneddol, ond yr hyn rwy’n ei hoffi fwyaf amdano yw ei feddylfryd. Mae’n mwynhau ochr gorfforol y gêm, mae’n mwynhau’r gwrthdaro ac mae eisiau cystadlu.

“Roedd y tymor diwethaf yn rhwystredig iddo oherwydd bod anaf wedi cyfyngu ar ei gyfleoedd, ond mae’n rhaid i mi roi clod i Will a’n staff meddygol a pherfformiad am y gwaith maen nhw wedi’i wneud i’w gael yn ôl i sefyllfa lle mae’n barod i symud ymlaen eto.

“Pan ddaeth yn ôl i hyfforddi tua diwedd y tymor roedd ei effaith yn amlwg ar unwaith. Daeth ag egni, corfforoldeb a mantais gystadleuol a gododd y grŵp o’i gwmpas.”

“Mae’n dal yn chwaraewr ifanc gyda llawer i’w ddysgu, ond credwn fod ganddo’r holl rinweddau sydd eu hangen i ddod yn chwaraewr rygbi proffesiynol da iawn ac rydym wrth ein bodd y bydd yn parhau â’r daith honno gyda ni.”

Ar ôl chwarae ei rygbi iau i Glwb Rygbi Chobham yn Surrey, aeth Evans ymlaen trwy lwybr Alltudion Cymru cyn serennu i’r Scarlets a Chymru Dan-18 tra’n astudio yng Ngholeg Llanymddyfri.

Mae ei berfformiadau wedi parhau i ddenu sylw ac yn ddiweddar cafodd ei ddewis yng ngharfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth Rygbi’r Byd Dan-20.

Dywed Evans ei fod yn benderfynol o ad-dalu’r ffydd a ddangoswyd ynddo gan y clwb.

“Mae wedi bod yn flwyddyn rhwystredig ar adegau oherwydd mae pob chwaraewr eisiau bod allan ar y cae yn chwarae rygbi, ond rydw i wedi dysgu llawer drwy’r broses.

“Mae Pencampwriaeth Rygbi’r Byd Iau yn rhoi cyfle i mi orffen y tymor yn gryf cyn canolbwyntio ar y tymor nesaf.

“Mae’r gefnogaeth rydw i wedi’i chael gan yr hyfforddwyr, y staff meddygol a’r tîm perfformio wedi bod yn wych ac rydw i’n ddiolchgar am y ffydd y mae’r clwb wedi’i ddangos ynof i.

“Mae arwyddo fy nghytundeb hŷn cyntaf yn foment balch iawn, ond rydw i’n gwybod mai dim ond y dechrau yw hwn. Rydw i’n edrych ymlaen at ddechrau ymarfer dros yr haf, cystadlu’n galed a gwneud popeth o fewn fy ngallu i ennill cyfleoedd yn y garfan.”

Evans yw’r chwaraewr ifanc diweddaraf i ymrwymo ei ddyfodol i’r Scarlets wrth i’r clwb barhau i adeiladu carfan sy’n gallu cystadlu nawr tra hefyd yn datblygu’r genhedlaeth nesaf o dalent cartref.

Mae Fletcher Anderson, Josh Macleod, Gareth Davies, Jac Davies, Dan Davis, Sam Lousi a Harri O’Connor wedi arwyddo cytundebau newydd, tra bod y clwb wedi recriwtio Corey Domachowski, Harvey Cuckson, John McKee, George Roberts, Isaac Murray-Macgregor ac Alex Groves.