Wythwr talentog Fletcher Anderson yn ymuno â’r Scarlets

Rob LloydFeatured

Mae’r Scarlets wedi cryfhau’r garfan am dymor 2025-26 trwy arwyddo’r wythwr ifanc Fletcher Anderson o’r Crusaders.

Mae’r chwaraewr 22 oed wedi chwarae tair gêm i’r Crusaders yn ystod eu tymor buddugol yn y gynghrair Super Pacific a gafodd ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn, Dyn y Flwyddyn ac Amddiffynnwr y Flwyddyn i’r Tasman Makos am eu hymgyrch NPC 2025.

Roedd yn gapten ar dîm cyntaf ei goleg ac wedi’i enwi yng ngharfan 2020 Ysgolion Seland Newydd.

Datblygodd trwy system Academi’r Crusaders ac ymddangosodd am y tro cyntaf i’r Crusaders llynedd.

Yn sefyll yn 6tr a 2m ac yn pwyso 107kg, mae Fletcher wedi serennu i’r Tasman trwy’r tymor, gan ddangos ei sgiliau cario cryf a’i amddiffyn ymosodol. Cafodd ei enwi’n ddiweddar yn rhestr Rugby Pass fel un o’r chwaraewr mwyaf addawol o dan 23 oed yn rygbi Seland Newydd.

Wrth ganmol y chwaraewr yn ystod seremoni gwobrwyo, dywedodd y Makos: “Yn dalent ifanc ac addawol, mae Fletcher yn barod yn dangos aeddfedrwydd o flaen ei oedran, gan gyfuno gwaith caled gydag angerdd i wisgo’r crys. Mae ei effaith ar ac oddi ar y cae wedi ein syfrdanu.”

Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Mae Fletcher yn flaenwr ifanc a thalentog sydd wedi serennu i’r Tasman yn y NPC ac yn barod wedi cynrychioli’r Crusaders yn Super Rugby. Mae’n chwaraewr pwerus a chryf sydd yn amddiffynnwr cadarn.

“Rydym yn edrych ymlaen at weld beth sydd ganddo i’w gynnig ac i’w groesawu i Lanelli o flaen bloc mawr o gemau yn y URC a Chwpan Pencampwyr.”

Bydd Fletcher yn ymuno â’r garfan ym mis Tachwedd.

Dywedodd: “Hoffwn ddiolch i Dwayne am y cyfle i ymuno â’r Scarlets.

“Dwi wedi clywed pethau da wrth chwaraewyr eraill yn y garfan am y cyfeiriad mae’r tîm yn symud i mewn ac rwy’n edrych ymlaen at gyrraedd Llanelli a chwrdd â phawb.

“Roedd y Scarlets yn camu i’r cyfeiriad cywir ar ddiwedd y tymor diwethaf wrth gyrraedd yr wyth olaf ac rwy’n edrych ymlaen at fod yn rhan o helpu i wthio ymlaen ymhellach tymor hwn.”