Y cefnwr ifanc Jac Davies yn arwyddo cytundeb hŷn cyntaf

Rob LloydFeatured

Mae’r Scarlets wrth ei bodd i gyhoeddi’r cefnwr ifanc cyffrous Jac Davies fel y chwaraewr diweddaraf i arwyddo cytundeb gyda’r clwb.

Mae’r chwaraewr 22 oed wedi dechrau naw o weithiau yng nghrys y Scarlets, gan gynnwys gemau Cwpan Pencampwyr Investec yn erbyn Bristol Bears, Union Bordeaux-Bègles a Northampton Saints.

Yn chwaraewr rhyngwladol ar lwyfan D20 Cymru, mae Jac wedi dod a’i sgiliau ymosodol a welwyd ganddo yn Super Rygbi Cymru i’r llwyfan mwyaf, gan ddangos ei gyflymder, gwaith traed a greddf. Roedd ei berfformiad yn Bordeaux y tymor hwn yng Nghwpan Pencampwyr yn arwydd clir o’i botensial, gan sefyll allan yn y gystadleuaeth Ewropeaidd.

Wedi’i addysgu yn Ysgol Glantaf a graddio o Academi hŷn y Scarlets, mae Jac yn cynrychioli’r genhedlaeth nesaf o dalent ifanc sydd wedi datblygu trwy ein system a chreu argraff ar y lefel uchaf. Hawliodd ei gais cyntaf yn erbyn Northampton Saints ac wedi parhau i fagu hyder gyda phob cyfle.

Dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi dros dro’r Scarlets Nigel Davies: “Mae Jac yn un o nifer o olwyr ifanc a chyffrous sydd yma’n datblygu gyda ni. Mae’n gyflym ar ei draed, gyda’r gallu i guro amddiffynwyr ac wedi dangos aeddfedrwydd yn ystod gemau dwyster uchel, yn enwedig yng Nghwpan Pencampwyr lle gafodd gemau arbennig yn erbyn Bordeaux a Northampton.

“Mae’n gweithio’n galed ar ei gêm, ac wedi serennu i Lanymddyfri yn y SRC ac wedi cymryd bob cyfle gyda’r Scarlets.

“Wrth edrych ar y dalent sydd gyda ni yn y tri ôl, mae’n gyfnod cyffrous i ni fel clwb. Gyda Jac, rydym yn teimlo fod yna llawer mwy i ddod ac i ni’n edrych ymlaen at weld ei ddatblygiad dros y tymhorau i ddod.”

Dywedodd Jac Davies: “Dwi wedi mwynhau’r heriau a’r cyfleoedd mor belled, yn enwedig wrth fynd yn erbyn rhai o dimau gorau Ewrop yng Nghwpan Pencampwyr.

“Mae’r clwb yma’n golygu llawer i mi ac rwy’n edrych ymlaen at barhau i ddatblygu, i ddysgu a gobeithio cymryd y cyfleoedd sydd yn dod fy ffordd.”