Mae Billy McBryde wedi ymuno â charfan y Scarlets ar fenthyg i gryfhau opsiynau maswr o flaen gêm y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn erbyn Benetton.
Gyda Sam Costelow a Joe Hawkins wedi ymuno â gweddill carfan Chwe Gwlad Cymru ac Elis Price wedi’i anafu, mae McBryde wedi cyrraedd Parc y Scarlets o dîm Super Rygbi Cymru Gogledd Cymru RGC.
Yn chwaraewr D20 Cymru a ddatblygodd trwy system y Scarlets, chwaraeodd McBryde chwe gêm yng Nghwpan Anglo-Cymraeg i’r Scarlets yn 2016 a 2017 yn ogystal â gêm gyfeillgar.
Yn wreiddiol o Gwm Gwendraeth – ac yn fab i gyn bachwr Cymru a’r hyfforddwr Robin McBryde – mae Billy wedi treulio’r ddau dymor diwethaf yng Ngogledd Cymru yn dilyn pedair blynedd yn y Bencampwriaeth yn Lloegr gyda Doncaster Knights.
Bydd y myfyriwr deunaw oed o Goleg Llanymddyfri Carwyn Leggatt-Jones yn paratoi am ei drydydd ymddangosiad yn y URC yn erbyn Treviso.
Bydd y Scarlets yn teithio i Ogledd yr Eidal yn dilyn buddugoliaeth gampus yn erbyn Ulster ym Mharc y Scarlets ar brynhawn Sadwrn, eu trydedd fuddugoliaeth yn y bencampwriaeth.
