Mae’r Scarlets yn falch o gyhoeddi bod y maswr rhyngwladol Gareth Anscombe wedi ymuno â’r clwb ar gyfer tymor 2026/27.
Yn un o’r chwaraewyr mwyaf profiadol ac uchel ei barch yn y gêm, mae Anscombe yn dod â dealltwriaeth eithriadol o’r gêm, craffter tactegol, arweinyddiaeth a chyfoeth o brofiad ar lefel clwb a rygbi rhyngwladol.
Wedi ei eni yn Seland Newydd, roedd yn rhan o garfan y Gamp Lawn yn 2019, mae wedi ennill 42 cap, ac mae’n dod i orllewin Cymru ar ôl cyfnodau yn chwarae i Aviron Bayonnais yn y Top 14, Caerloyw, Caerdydd a’r Gweilch, ac amser yn chwarae Super Rugby i’r Blues a’r Chiefs.
Mae Cyfarwyddwr Rygbi’r Scarlets, Nigel Davies, yn credu bod arwyddo Anscombe yn cryfhau un o’r safleoedd mwyaf dylanwadol ar y cae wrth ddarparu cyfle amhrisiadwy i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o hanwyr y Scarlets.
Dywedodd: “Mae pob penderfyniad recriwtio yn dechrau gydag un cwestiwn syml – ydy hyn yn mynd i’n gwneud ni’n well? Ac ry’n ni o’r farn bod Gareth yn ddi-gwestiwn yn gwneud hynny.
“Mae ei allu i reoli gemau, gwneud penderfyniadau o dan bwysau ac arwain tîm mewn gêm yn amrishiadwy. Mae Gareth wedi profi’r safonau yma trwy gydol ei yrfa clwb a rhyngwladol.
“Mae e’n dod yma yn barod i gystadlu. Mae e’n ymuno â’r Scarlets ar gyfer y crys ac am ei fod e o’r farn ei fod yn credu ei fod yn gallu gwneud cyfraniad i’r tîm – a dyna’r union feddylfryd sydd angen yn yr amgylchedd.”
Esboniodd Davies fod y recriwtio wedi ddylanwadu gan garfan bresennol y clwb ac mae’n gyffrous am sut y bydd Anscombe yn gweithio ochr yn ochr â Sam Costelow, Carwyn Leggatt-Jones ac Elis Price (*wedi ei anafu ar hyn o bryd).
Ychwanegodd Davies: “Un o’r pethau mwyaf gwerthfawr y mae chwaraewyr profiadol yn eu cynnig yw’r gallu i drosglwyddo gwybodaeth. Mae Gareth wedi llwyddo ar y lefel uchaf yn y gêm. Mae’n deall sut i baratoi, sut i arwain, sut i reoli pwysau a sut i ennill gemau pwysig.”
“Bydd cael rhywun o safon Gareth yn gweithio ochr yn ochr â Sam, Carwyn, Elis a gweddill ein carfan bob dydd yn fuddiol ac yn codi safonau drwy gydol y rhaglen. Mae’r sgyrsiau hynny ar y maes hyfforddi, mewn cyfarfodydd ac o amgylch yr amgylchedd yn hynod bwerus.”

Dywed Anscombe bod cael y cyfle i ymuno â’r Scarlets yn un yr oedd am ei ddilyn ar unwaith.
“Rwy’n wirioneddol gyffrous i ymuno â’r Scarlets yn ystod cyfnod cyffrous i’r clwb. Rwyf wedi gwylio recriwtio a chryfhau’r garfan dros y misoedd diwethaf gyda diddordeb ac mae llawer o uchelgais yma ym Mharc y Scarlets ac amgylchedd gwych i weithio ynddo.
“Mae gen i awydd enfawr o hyd i gystadlu ac i gyfrannu ar y cae a helpu’r tîm i ennill gemau.
“Mae cystadleuaeth yn dod â’r gorau allan o chwaraewyr a dyna’n union rwyf eisiau. Mae Sam yn chwaraewr rhagorol, mae Elis a Carwyn ill dau yn faswyr ifanc disglair iawn i’r Scarlets nawr ac yn y dyfodol ac rwy’n edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â nhw. Fy nod yw helpu i wthio safonau, rhannu rhywfaint o fy mhrofiad a pharhau i herio fy hun.”
“O siarad â grŵp hyfforddi’r Scarlets, cefais fy mhlesio’n fawr gan yr egni a’r ffocws yma a ble mae’r clwb hwn eisiau mynd. Mae gweledigaeth glir, mae grŵp cyffrous o chwaraewyr ac roeddwn i eisiau bod yn rhan o’r daith honno.”
Ymunodd Anscombe â’i gyd-chwaraewyr newydd ar gyfer ei sesiwn hyfforddi gyntaf heddiw ym Mharc y Scarlets (dydd Mawrth 28 Gorffennaf) wrth i baratoadau ar gyfer tymor newydd Pencampwriaeth Rygbi Unedig BKT barhau.
Mae llofnod Anscombe yn cryfhau’r garfan ymhellach sy’n paratoi ar gyfer dechrau’r ymgyrch newydd ar hyn o bryd.
Mae Fletcher Anderson, Josh Macleod, Henry Thomas, Gareth Davies, Dan Davis, Sam Lousi, Harri O’Connor, Jac Davies, Will Evans, Carwyn Leggatt-Jones a Gabe Hawley i gyd wedi llofnodi cytundebau newydd, tra bod y prop Corey Domachowski, yr ail reng Harvey Cuckson, Alex Groves a Tom Allen, y bachwyr John McKee a George Roberts, y cefnwr Isaac Murray-Macgregor a’r reng ôl Cullen Grace i gyd yn ymuno â’r clwb.
Mae’r Scarlets yn agor eu hymgyrch URC gyda derbi Cymreig yn erbyn cyn-glwb Anscombe, Caerdydd, ddydd Sadwrn Medi 26 (cic gyntaf 7.45pm). Gellir prynu tocynnau ar gyfer y gêm hon YMA ynghyd â thocynnau tymor ar gyfer 2026-27.
