Mae chwaraewyr newydd y Scarlets Joe Hawkins, Jake Ball a Tristan Davies wedi’u henwi yn y XV i ddechrau yn erbyn Munster yng ngêm agoriadol y Bencampwriaeth Rygbi Unedig ym Mharc y Scarlets ar ddydd Sadwrn (5.30pm Premier Sport).
Hawkins sy’n cychwyn fel canolwr, Ball yn ei safle cyfarwydd yn yr ail reng a Davies fel blaenasgellwr ochr dywyll.
Mae’r prif hyfforddwr Dwayne Peel wedi enwi carfan gref sydd yn cynnwys sawl chwaraewr rhyngwladol a ymddangosodd ar y daith i Japan dros yr haf.
Yn y tri ôl, mae Tom Rogers, sydd yn dychwelyd ar ôl colli mas ar y gemau cyfeillgar ar ddiwedd yr haf, ac yn ymuno â Blair Murray ac Ellis Mee.
Yng nghanol cae mae Hawkins yn bartner i Joe Roberts, wrth i Sam Costelow ymuno â Gareth Davies fel yr haneri – gwr sydd ar fin cychwyn ei 18fed tymor gyda’r clwb.
Yn y rheng flaen mae Kemsley Mathias yn cychwyn fel prop pen rhydd; bachwr D20 Cymru Harry Thomas sydd yn derbyn ei ddechreuad cyntaf yn y bencampwriaeth, wrth i Harry Thomas ddychwelyd o anaf i gychwyn fel prop pen rhydd.
Jake Ball, sydd yn dechrau ei ail bennod gyda’r Scarlets, ac yn ailuno â Sam Lousi yn yr ail reng, Davies wrth ochr y capten Josh Macleod a’r wythwr Taine Plumtree.
Ar y fainc mae Kirby Myhill a’r clo o Awstralia Max Douglas sydd wedi gwella o’i anaf, ac yn barod am ei ymddangosiad cyntaf ers anafu ei ysgwydd yn erbyn Ulster ym mis Mawrth.
Dywedodd y prif hyfforddwr Dwayne Peel: “Roedd tipyn o fomentwm o ddiwedd tymor diwethaf ac mae’n bwysig i ni gadw hynny i fynd. Pan mae yna dipyn o fomentwm, ac i chi’n cael blas ar lwyddiant, i chi’n ysu am fwy. Mae cael dechreuad da yn hollbwysig. Wrth i ni gwrso am le yn yr wyth olaf llynedd ar ôl dechreuad cymysglyd i’r tymor, i ni am anelu am ddechreuad gwell eleni yn enwedig yn erbyn tîm fel Munster.”
Tîm y Scarlets i wynebu Munster ym Mharc y Scarlets ar ddydd Sadwrn, Medi 27 (5.30yp)
15 Blair Murray; 14 Tom Rogers, 13 Joe Roberts, 12 Joe Hawkins, 11 Ellis Mee; 10 Sam Costelow, 9 Gareth Davies; 1 Kemsley Mathias, 2 Harry Thomas, 3 Henry Thomas, 4 Jake Ball, 5 Sam Lousi, 6 Tristan Davies, 7 Josh Macleod (capt), 8 Taine Plumtree.
Eilyddion: 16 Kirby Myhill, 17 Alec Hepburn, 18 Harri O’Connor, 19 Max Douglas, 20 Jarrod Taylor, 21 Dane Blacker, 22 Johnny Williams, 23 Macs Page.
Ddim ar gael oherwydd anaf/salwch
Ryan Elias, Eddie James, Archer Holz, Jac Price, Will Evans, Dom Kossuth.
Ddim ar gael oherwydd dyletswydd rhyngwladol
Marnus van der Merwe
