Ymunwch â ni ym Mharc y Scarlets nos Iau yma, Tachwedd 19 ar gyfer ein ‘Noson i Gefnogwyr’.
Mae am ddim i fynychu ac yn agored i bob gefnogwr ac yn gyfle i glywed y diweddaraf o’r clwb, ar ac oddi ar y cae, o flaen ein gêm gartref nesaf yn erbyn Connacht ar Sadwrn, Rhagfyr 5.
Bydd Llywydd y Scarlets, Derek Quinnell, Cadeirydd Gweithredol Simon Muderack, Rheolwr Cyfarwyddwr Jon Daniels a Chyfarwyddwr Rygbi Nigel Davies yn rhan o’r panel i rhannu’r holl newyddion.
Oherwydd y niferoedd rydym yn eu disgwyl, bydd y digwyddiad nawr yn cael ei gynnal ar lefel 1 Neuadd Fwyd yn Eisteddle’r De Castell Howell, gan hefyd rhoi’r cyfle i gefnogwyr i weld y Lolfa’r Capten ar ei newydd wedd – y cartref newydd i gyn chwaraewyr.
Bydd gan chefnogwyr y cyfle i ofyn cwestiynau i’r panel. Os hoffwch ddanfon eich cwestiwn o flaen llaw, e-bostiwch [email protected].
Mynediad am ddim. Drysiau’n agor am 6yh gyda’r digwyddiad i gychwyn am 6.30yh. Bydd y bar ar agor gyda lluniaeth ar gael.
Bydd y digwyddiad yn cael ei chynnal mewn cydweithrediad â Crys16.
Bydd adroddiad a lluniau o’r noson yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Scarlets.
