Rheolwr Marchnata

Rob LloydSwyddi

Mae Scarlets yn glwb rygbi proffesiynol sy’n llawn hanes a thraddodiad. Wedi’i leoli ym Mharc y Scarlets yn Llanelli, rydym yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig (URC) a chystadlaethau Ewropeaidd. Nid yn unig ein caer ar ddiwrnodau gemau yw Parc y Scarlets ond hefyd lleoliad blaenllaw ar gyfer cynadleddau, digwyddiadau a lletygarwch yng ngorllewin Cymru.

Rydym yn chwilio am Reolwr Marchnata brwdfrydig, creadigol a threfnus i arwain ymgyrchoedd wedi’u targedu sy’n tyfu ymgysylltiad cefnogwyr, yn gyrru gwerthiant tocynnau, yn hybu refeniw digwyddiadau, yn cynyddu nifer yr ymwelwyr ac yn gwella proffil ein clwb yn lleol ac yn genedlaethol.

PRIF GYFRIFOLDEBAU

  1. Datblygu Ymgyrchoedd Marchnata:
    • Cynllunio, gweithredu ac optimeiddio ymgyrchoedd marchnata ar draws cyfryngau digidol, print a darlledu i hyrwyddo (ond heb fod yn gyfyngedig i) y canlynol;
      a. Gwerthiant tocynnau tymor a thocynnau diwrnod gêm ar gyfer URC a gemau cartref eraill
      b. Pecynnau lletygarwch corfforaethol
      c. Archebu cynadleddau a digwyddiadau ym Mharc y Scarlets
      d. Gwerthiannau manwerthu
      e. Gwerthiannau bwyd a diod
  2. Ymgysylltu â Brand a Chefnogwyr:
    • Datblygu a chyflwyno cynnwys a straeon diddorol i gryfhau brand y Scarlets, a chydweithio â thimau mewnol i hyrwyddo mentrau ymgysylltu cymunedol a chefnogwyr
  3. Partneriaeth a Chydweithio:
    • Gweithio gyda chlybiau rygbi proffesiynol eraill, timau marchnata URC ac Undeb Rygbi Cymru i wneud y mwyaf o gyrhaeddiad ymgyrchoedd a chyfleoedd traws-hyrwyddo.
    • Cefnogi cynlluniau actifadu noddwyr a gwneud y mwyaf o werth brand i bartneriaid masnachol
  4. Rheoli Digidol a Chyfryngau Cymdeithasol:
    • Goruchwylio a chyflwyno gweithgaredd marchnata digidol, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, ymgyrchoedd e-bost, cynnwys gwe, a hysbysebu â thâl
  5. Mewnwelediadau ac Adroddiadau:
    • Monitro effeithiolrwydd ymgyrchoedd gan ddefnyddio dangosyddion perfformiad allweddol ac offer dadansoddi
    • arparu adroddiadau rheolaidd i uwch reolwyr ac awgrymu gwelliannau sy’n seiliedig ar ddata
  6. Arwain yr adran:
    • Darparu arweinyddiaeth strwythuredig ac ysbrydoledig i’r Tîm Marchnata wrth gyflawni amcanion yr adran a’r cwmni
    • Rheoli Perfformiad effeithiol staff yr adran a chefnogi prosesau AD mewn adrannau eraill yn ôl yr angen

CYFRIFOLDEBAU CYFFREDINOL

  1. Agwedd gadarnhaol tuag at Dechnoleg Gwybodaeth wrth gyflawni cyfrifoldebau’r swydd
  2. Ymddwyn mewn modd moesegol a phroffesiynol bob amser a bod yn barod ac yn gallu atgyfnerthu pwysigrwydd y rhinweddau hyn o fewn y cwmni
  3. Dealltwriaeth ac ymrwymiad i roi cyfleoedd cyfartal mewn cyflogaeth a chwaraeon
  4. Dealltwriaeth o gyfrifoldeb unigol wrth gydymffurfio â pholisïau a threfniadau Iechyd a Diogelwch
  5. Y gallu i weithio oriau afreolaidd ac anghymdeithasol yn ôl yr angen gan gynnwys gweithio y tu allan i oriau arferol, gyda’r nos, penwythnosau a gwyliau cyhoeddus

Eich Sgiliau a’ch Profiad

Hanfodol:

  • Profiad amlwg o hwyluso twf mewn rôl farchnata (yn ddelfrydol 3-5 mlynedd), yn ddelfrydol yn y sectorau chwaraeon, digwyddiadau neu adloniant
  • Sgiliau cynllunio a gweithredu ymgyrchoedd cryf
  • Y gallu i ddefnyddio offer a llwyfannau marchnata digidol (cyfryngau cymdeithasol, marchnata e-bost, CMS, SEO, dadansoddeg)
  • Y gallu i reoli sawl prosiect ac amryw o randdeiliaid
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol

Dymunol:

  • Yn angerddol am rygbi a dealltwriaeth o dirwedd rygbi proffesiynol yng Nghymru
  • Profiad o lwyfannau tocynnau a CRM
  • Cyfarwydd ag Adobe Creative Suite neu offer dylunio tebyg
  • Y gallu i siarad Cymraeg

Cyflog: Cystadleuol

Sut i wneud cais:

Anfonwch CV cyfredol a llythyr cais yn egluro pam eich bod chi’n addas ar gyfer y swydd i [email protected]

Nodwch y cwnlynol yn y testun: Cais – Rheolwr Marchnata – [Eich Enw]

Gwnewch yn siwr o gynnwys manylion cyswllt a’ch argaeledd/dyddiad cychwyn.

Gwnewch gais erbyn Gwener 21 Awst, 2026