|
||||||||
|
|
||||||||
| Att.: | ||||||||
|
|
|||||
| BUDDUGOLIAETHAU | |||||
![]() |
|||||
| COLLEDION | |||||
![]() |
|||||
| CYFARTAL | |||||
![]() |
|||||
Cafodd y Scarlets ei buddugoliaeth gyntaf yn 2024 o ganlyniad i gais dramatig yn ystod amser ychwanegol gan eilydd Eduan Swart yn erbyn Benetton, 16-13 mewn gêm gyffrous ym Mharc y Scarlets.
Yn y diweddglo llawn tensiwn, gwelwyd cais gan Steff Evans yn cael ei wrthod gan swyddog gêm deledu cyn i Swart sgorio cais o yriant lein i wreiddio’r fuddugoliaeth afaelgar.
Hyd yn oed wedyn, roedd rhaid i’r dorf aros am rai eiliadau poenus wrth i’r Swyddog gêm deledu i gadarnhau’r cais, gyda Sam Costelow yn glanio’r trosiad y llinell ystlys er llawenydd o bawb yn y Parc.
Roedd hi’n fuddugoliaeth haeddiannol i’r Scarlets, a wnaeth brwydro yn ôl o 13-3 ar hanner amser.
Fe wnaeth yr ail reng Alex Craig rhoi arddangosiad cario enfawr yng nghanol y pac, tra roedd yna arddangosiadau gwych eraill gan Teddy Leatherbarrow, Shaun Evans a Sam Lousi yn y blaen ac Ioan Lloyd fel bygythiad ymosod o ddyfnder.
Roedd y fuddugoliaeth yn y drydedd fuddugoliaeth y Scarlets yn yr URC y tymor hwn yn dilyn y fuddugoliaeth ddwbl dros Gaerdydd cyn y Nadolig.
Cyn y gic gyntaf, talodd y Scarlets teyrnged i’r arwrol Lewis Jones, a bu farw yn gynt y mis yma.
Cafwyd dechreuad da arwain at weld y Scarlets ar y sgorfwrdd yn y trydydd munud gan ddiolch i gic cosb gan Costelow o 35 metr i ffwrdd.
Ymatebodd y rhif gyferbyn Jacob Umaga yn syth ar gyfer yr ymwelwyr, a ddathlodd y cais agoriadol, gan ddiolch i rediad pwerus lawr y llinell gyffwrdd gan yr asgellwr Onisi Ratave.
Roedd trosiad a chic gosb Umaga yn llwyddiannus i roi ei dîm ar y blaen o 13-3 ar ôl 20 munud.
Roedd gan y Scarlets digon o gyfleoedd gyda’r bêl tuag at yr hanner gyda’r drawiadol Craig yn mynd yn agos o ganlyniad i rediad cryf.
Ond roedd amddiffyniad yr Eidalwyr yn profi’n anodd chwalu gyda’r ymwelwyr yn gafael ar eu mantais o 10 pwynt ar yr egwyl.
Fe wnaeth y Scarlets lleihau’r arweiniad gan ddiolch i gig cosb gan Costelow 11 munud i’r ail hanner, ond er gwaethaf toriadau cyflym gan Johnny Williams a Lloyd, ni allai’r tîm cartref gwneud unrhyw dolciau pellach tan y munudau olaf.
Roedd Swart ymysg y nifer o eilyddion sydd wedi gwneud argraff wrth i’r cloc dician i lawr.
Roedd un o rheini, Steff Evans, yn meddwl ei fod drosodd ar ôl camu ei ffordd i’r gwyngalch ond diystyrwyd y cais. Roedd y Scarlets, yn chwarae gyda mantais, cafodd ei gicio i’r gornel, wedyn daeth enillydd y gêm Swart, wrth i bawb bentyrru ar y llinell yrru a symudodd drosodd yn y gornel.
Roedd rhaid i’r dorf dal eu hanadl i weld os oedd y chwaraewr o Dde Affrica wedi aros ar y cae, ond dywedwyd wrth y dyfarnwr Chris Busby am gadw at ei benderfyniad a chafodd y Scarlets y fuddugoliaeth, wedi’i ychwanegu at gan drosiad Costelow.
Bydd y Scarlets yn ôl ar waith gartref, Dydd Sadwrn nesaf wrth iddynt groesawu Glasgow Warriors i’r Parc.
Scarlets – Ceisiadau: E. Swart. Trosiadau: S. Costelow. Ciciau cosb: Costelow (3).
Presenoldeb: 6,482
| GOSB | ADLAM | TRO | CAIS | CHWARAEWR | SEF | CHWARAEWR | CAIS | TRO | ADLAM | GOSB |
| Amser | Gweithredu | Disgrifiad | Tîm |
|
||||||||
|
|
||||||||
| Att.: | ||||||||
| CAIS | ||
| - | TRO | - |
| - | GOSB | - |
| - | ADLAM | - |
| - | YC | - |
| - | RC | - |
TRO - Trosiad, CAIS - Cais

| SEF | CHWARAEWR | CAIS | TRO | ADLAM | GOSB |
| SEF | CHWARAEWR | CAIS | TRO | ADLAM | GOSB |
TRO - Trosiad, CAIS - Cais
| Amser | Gweithredu | Disgrifiad | Tîm |
| - | CAIS | - |
| - | TRO | - |
| - | GOSB | - |
| - | ADLAM | - |
| - | YC | - |
| - | RC | - |
TRO - Trosiad, CAIS - Cais