|
||||||||
|
|
||||||||
| Att.: | ||||||||
|
|
|||||
| BUDDUGOLIAETHAU | |||||
![]() |
|||||
| COLLEDION | |||||
![]() |
|||||
| CYFARTAL | |||||
![]() |
|||||
Scarlets nôl ar y trywydd cywir yn dilyn chwe chais ar brynhawn llwyddiannus ym Mharc y Scarlets.
Jac Morgan yn rhoi perfformiad da i'w dîm ac yn derbyn gwobr seren y gêm ar ôl sgori dau gais yn ystod yr hanner cyntaf.
Sgoriwyd y cais pwynt bonws yn ystod yr hanner cyntaf gyda’r haneri Sam Costelow a Dane Blacker hefyd yn croesi’r llinell i’r tîm cartref.
Fe ymgeisiodd Benetton i ffeindio’u ffordd yn ôl yn ystod yr ail hanner, ond ceisiadau hwyr gan Sione Kalamafoni a’r eilydd Paul Asquith wnaeth cadarnhau’r fuddugoliaeth holl bwysig.
Yr Eidalwyr oedd y cyntaf ar y sgorfwrdd gan ddiolch i gic cosb gan faswr rhyngwladol Tommaso Allan, ond wnaeth y Scarlets taro nôl yn syth.
Gwaith da o’r llinell wnaeth symud y chwarae lan at linell Benetton a seren y gêm a'r dyfodol Jac Morgan groesodd y llinell i sgori gais cyntaf y prynhawn.
Gyda’r Scarlets yn dominyddu’r meddiant a thiriogaeth a chosbau’r ymwelwyr yn parhau, fe aeth Benetton i lawr i 13 dyn ar y cae yn dilyn y bachwr Tomas Baravelle a’r prop Tiziano Pasqualli yn cael eu danfon i’r sin-bin.
Ffeindiodd y maswr Costelow bwlch i weithio’i ffordd trwy amddiffyn Benetton, ond yn anafu ei bigwrn yn y broses. Oherwydd hyn, Steff Evans oedd yn trosi’r cais. Yr anaf yn achosi i Costelow i adael y cae a Dan Jones yn dod oddi’r fainc yn ei le.
Tair munud yn ddiweddarach roedd y Scarlets yn dathlu eu trydydd gais wrth i Morgan ffeindio’i ffordd ar yr asgell chwith. Roedd gan y blaenasgellwr digon i’w wneud rhyw 22 metr allan, ond ei bŵer a’i gallu yn serennu wrth iddo glirio pedwar o amddiffynnwr Benetton i groesi am gais unigol gwych.
Er hyn, roedd y Scarlets yn dal i frwydro cyn yr egwyl. Cic wych gan yr eilydd Jones yn ffeindio’r gwagle, a’r cefnwr Johnny McNicholl yn gweithio’i ffordd draw a’r mewnwr Dane Blacker groesodd am y cais pwynt bonws.
Y sgôr ar yr hanner yn 26-3, roedd Benetton yn dangos digon o hyder ar ddechrau’r ail hanner, gyda chais hyd y cae heb ei wobrwyo gan y dyfarnwr, ond yn taro nôl i sgori gais cyfreithlon trwy’r asgellwr Leonardo Sarto.
Nifer o gyfleoedd eraill ar hyd y cae i’r tîm cartref, ond yn methu i ymestyn y sgôr yn bellach ac yn fodlon gyda chic gosb i estynni eu mantais.
Cafodd y prop Steff Thomas ei ymddangosiad cyntaf yn y PRO14 wrth i’r Scarlets gwagio’r fainc, ac o’r diwedd, ar y 71 funud, daeth y pumed cais i’r tîm cartref. Y canolwr Tyler Morgan yn bylchu wrth iddo ddod o hyd i’r llinell gais, a Kalamafoni yn cario’r bel drosodd.
Yr Eidalwyr yn taro nôl yn syth gan sgori gais o’r llinell, ond y Scarlets oedd yn cael y gair olaf wrth i ddwylo da ar hyd y llinell gefn ffeindio Asquith a wnaeth ochr gamu am gais rhif chwech y Scarlets.
Gydag ond tair gêm o’r Guinness PRO14 ar ôl, roedd y fuddugoliaeth yn cadw ffydd ar gyfer lle yng Nghwpan y Pencampwyr y tymor nesaf.
| GOSB | ADLAM | TRO | CAIS | CHWARAEWR | SEF | CHWARAEWR | CAIS | TRO | ADLAM | GOSB |
| Amser | Gweithredu | Disgrifiad | Tîm |
|
||||||||
|
|
||||||||
| Att.: | ||||||||
| CAIS | ||
| - | TRO | - |
| - | GOSB | - |
| - | ADLAM | - |
| - | YC | - |
| - | RC | - |
TRO - Trosiad, CAIS - Cais

| SEF | CHWARAEWR | CAIS | TRO | ADLAM | GOSB |
| SEF | CHWARAEWR | CAIS | TRO | ADLAM | GOSB |
TRO - Trosiad, CAIS - Cais
| Amser | Gweithredu | Disgrifiad | Tîm |
| - | CAIS | - |
| - | TRO | - |
| - | GOSB | - |
| - | ADLAM | - |
| - | YC | - |
| - | RC | - |
TRO - Trosiad, CAIS - Cais