Buddugoliaeth yn cadw gobeithion Cwpan Pencampwyr yn fyw

CANLYNIADAU
V
|
 
Att.:
CERDYN SGORIO
BUDDUGOLIAETHAU
COLLEDION
CYFARTAL

Y Scarlets yn trechu'r tîm cartref i ennill eu buddugoliaeth gyntaf ym Murrayfield ers 2013, gan gymryd cam holl bwysig ymlaen tuag at fod yn gymwys i Gwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesaf.

Roedd ymdrech amddiffynnol y Scarlets yn anhygoel yn ystod munudau diwethaf y gêm i ddal ymlaen i’r fuddugoliaeth, a chwaraewr y gêm Sione Kalamafoni yn serennu’r ymdrech.

Gyda’r haul yn tywynnu yn y brifddinas, roedd y ddau ochr wedi mwynhau gêm cynhadledd B llawn bwrlwm.

Gyda phrif hyfforddwr Caeredin Richard Cockeril yn esbonio pwysigrwydd buddugoliaeth i’w ochr, ei dîm oedd cyntaf ar y sgorfwrdd gan fanteisio ar ddiffyg disgyblaeth y Scarlets i groesi am gais cyntaf y prynhawn gan y clo Magnus Bradbury gyda rhyw dair munud ar y cloc.

Ymatebodd y maswr Dan Jones gyda chic gosb, er i faswr Jaco van der Walt i daro nôl gyda thri phwynt yn syth.

Dangosodd y Scarlets digon o greadigrwydd gyda’u steil o ymosod yn erbyn y tîm cartref gan groesi am gais yn dilyn 17 munud o chwarae.

Dane Blacker yn taflu pas o’r tu fewn i’r asgellwr Tom Prydie a wnaeth bwydo i Tyler Morgan i groesi o dan y pyst. Fe wnaeth y dyfarnwr teledu cymryd golwg pellach ar y bas diwethaf, ond roedd y cais wedi’i wobrwyo a Jones yn llwyddo gyda’r trosiad i ychwanegu’r saith pwynt i’r bwrdd.

Ar 25 munud, roedd cic gosb arall gan van der Walt, ond saethodd y Scarlets yn ôl gyda chais arall yn yr hanner cyntaf.

Dwylo da gan Uzair Cassiem a Sam Lousi yn gweld cyfle i Johnny McNicholl trwy’r bwlch a’r cefnwr yn rasio lawr y cae i ddeifio ar draws y llinell yn y cornel, a Jones gyda chic wych i drosi o’r ystlys.

Ac roedd mwy i ddod yn ystod yr hanner cyntaf cyffroes iawn wrth i Gaeredin ymdrechu’n galed trwy gyfnod hir o chwarae i weld yr asgellwr rhyngwladol Darcy Graham yn sgori gais i’r tîm cartref.

Y Scarlets tu ôl ar yr egwyl o 20-17, ond nid am hir.

Llai na dwy funud o ailddechreuad y gêm, Steff Evans yn gweld cyfle gyda’r bel rhydd ac yn hacio trwy i weld y mewnwr Blacker yn pigo’r bel i fyny ac yn croesi am ei bumed cais o’r ymgyrch.

Gwthiodd Jones y sgôr ymhellach trwy drosiad a chic gosb i’r tîm cartref i’w wneud yn 27-20, ond cais o’r llinell i Gaeredin gan yr eilydd Dave Cherry yn adeiladu’r tensiwn rhwng y ddau dîm.

Gyda phum munud ar ôl ar y cloc, roedd gan van der Walt gyfle i gipio’r fuddugoliaeth, ond y gic yn rhy lydan; ac wedyn Caeredin yn ymdrechu’n galed i gael un cais arall yn dilyn cymal ar ôl gymal.

Fe gafodd Graham cyfle i ddwyn hi, ond y Scarlets yn ei atal rhag ei ymdrechion gan droi’r meddiant a llwyddo i gicio’r bel allan i seddle gwag Murrayfield i gwblhau’r gêm.

Mae’r fuddugoliaeth yn cadarnhau lle’r Scarlets yn y trydydd safle yng Nghynhadledd B, gan eu rhoi mewn safle da ar gyfer Cwpan y Pencampwyr y tymor nesaf.

CANLYNIADAU
V
|
 
Att.:

CERDYN SGORIO
 
CAIS
- TRO -
- GOSB -
- ADLAM -
- YC -
- RC -
GOSB - Gol Gosb, ADLAM - Gol Adlam,
TRO - Trosiad, CAIS - Cais

BEN WRTH BEN

- CAIS -
- TRO -
- GOSB -
- ADLAM -
- YC -
- RC -
GOSB - Gol Gosb, ADLAM - Gol Adlam,
TRO - Trosiad, CAIS - Cais