|
||||||||
|
|
||||||||
| Att.: | ||||||||
|
|
|||||
| BUDDUGOLIAETHAU | |||||
![]() |
|||||
| COLLEDION | |||||
![]() |
|||||
| CYFARTAL | |||||
![]() |
|||||
Dau gais hwyr gan Gaeredin wnaeth atal y Scarlets rhag dathlu'r fuddugoliaeth yn ystod gêm heulog ym Mharc y Scarlets wrth orffen ymgyrch 2020-21 gyda'r sgôr yn gyfartal.
Gyda'r cefnogwyr yn dychwelyd i'r stadiwm am y tro cyntaf mewn 15 mis, roedd y Scarlets ar y blaen gyda phum munud ar ôl ar y cloc, ond Caeredin wnaeth brwydro tan y funud olaf i gadw'r Scarlets rhag dathlu.
Mae hyn yn golygu i'r Scarlets orffen ei ymgyrch Cwpan yr Enfys yn y seithfed safle, ond stori'r gêm oedd y cefnogwyr a'r teuluoedd yn cael rhannu'r diwrnod o leiaf unwaith yn ystod y tymor yma.
Cafodd chwaraewyr fel Uzair Cassiem, Jac Morgan, Pieter Scholtz a Will Homer ei gymeradwyo wrth i'r chwiban olaf ganu er eu gêm ddiwethaf mewn crys y Scarlets, wrth ddymuno'n dda i'r gweddill fel Werner Kruger, Ed Kennedy, Paul Asquith, Dylan Evans a Tom Phillips
Ac roedd hi'n bleser i glywed Sosban Fach yn cael ei ganu o amgylch y stadiwm unwaith eto.
Gyda'r haul yn sgleinio, y Scarlets oedd y tîm ar y bwrdd yn gyntaf wrth i'r mewnwr Kieran Hardy croesi'r llinell ar ôl pas ar y tu fewn wrth Tom Rogers ar ôl naw munud ar y cae. Dan Jones wnaeth llwyddo gyda'r trosiad.
Roedd y ddau ochr yn creu digon o gyfleoedd a Chaeredin oedd wedi llwyddo i hafalu’r sgôr ar 24 munud wrth i'r clo Marshall Sykes croesi.
Ymatebodd y tîm cartref yn gyflym wrth i gyfuniad Hardy-Rogers taro unwaith eto.
Cymerodd maswr Cymru'r bel yn gyflym cyn rasio i lawr y cae i basio draw at seren y gêm Rogers i wibio trwy'r amddiffyn a sgori.
Troswyd gan Jones gyda'r ddau dîm gyda'r cyfle i ymestyn eu sgôr cyn yr egwyl.
Roedd yna gyfle i'r Scarlets croesi am eu trydydd cais ar ôl ailddechrau'r gêm ond y bas gan Blade Thomson i Ryan Conbeer wedi'i feirniadu i fod ymlaen.
Roedd yna gyfle i Gaeredin i gael gafael yn y gêm wrth i Morgan Jones cael ei ddanfon oddi'r cae am herio'n beryglus, a'r blaenasgellwr yr Alban Jamie Ritchie yn pweru drosodd o dan y pyst i ddod â'r sgôr yn hafal eto.
Caeredin oedd i lawr i 14 dyn pan ddaeth yr asgellwr Jack Blain oddi'r cae am herio'n anghyfreithlon ac fe fanteisiodd y Scarlets ar unwaith.
Roedd cyfuniad Uzair Cassiem a'r anhygoel Blade Thomson a'u gwaith gwych gan basio ar y tu fewn at Hardy a oedd ar draws y llinell am ei ail gais o'r prynhawn.
Yr eilydd Sam Costelow yn llwyddo'r trosiad ac yn paratoi am un arall wrth i'r eilydd Daf Hughes croesi'r llinell.
Roedd y fuddugoliaeth yn edrych yn ddiogel wrth i'r cloc cyfri i lawr, ond Caeredin yn parhau i weithio at yr eiliad olaf gyda cheisiadau wrth Blain a'r eilydd Boan Venter yn dod â'r sgôr yn hafal wrth i'r chwiban ganu.
| GOSB | ADLAM | TRO | CAIS | CHWARAEWR | SEF | CHWARAEWR | CAIS | TRO | ADLAM | GOSB |
| Amser | Gweithredu | Disgrifiad | Tîm |
|
||||||||
|
|
||||||||
| Att.: | ||||||||
| CAIS | ||
| - | TRO | - |
| - | GOSB | - |
| - | ADLAM | - |
| - | YC | - |
| - | RC | - |
TRO - Trosiad, CAIS - Cais

| SEF | CHWARAEWR | CAIS | TRO | ADLAM | GOSB |
| SEF | CHWARAEWR | CAIS | TRO | ADLAM | GOSB |
TRO - Trosiad, CAIS - Cais
| Amser | Gweithredu | Disgrifiad | Tîm |
| - | CAIS | - |
| - | TRO | - |
| - | GOSB | - |
| - | ADLAM | - |
| - | YC | - |
| - | RC | - |
TRO - Trosiad, CAIS - Cais