Gleision Caerdydd yn sicrhau'r ail fuddugoliaeth yn dilyn noson siomedig ym Mharc y Scarlets

CANLYNIADAU
V
|
 
Att.:
CERDYN SGORIO
BUDDUGOLIAETHAU
COLLEDION
CYFARTAL

Y Gleision yn fuddugol am yr ail dro yn erbyn y Scarlets mewn gêm agos ym mhencampwriaeth Guinness PRO14.

Roedd y tîm cartref bron a throi’r gêm ar ei ben ar ôl i Blade Thomson sgori gais gyda 12 munud ar ôl ar y cloc.

Ond y Gleision orffennodd yn fuddugol ac yn ennill ei ail gêm yn olynol yn erbyn y Scarlets.

Bydd y Scarlets yn difaru dewis pwysau dros bwyntiau wrth iddyn nhw fwynhau’r mwyaf o diriogaeth a meddiant.

Er hynny, roedd amddiffyn y Gleision yn rhy gryf i dorri lawr.

Dychwelodd chwaraewyr rhyngwladol Wyn Jones, Jake Ball, Ryan Elias a Johnny McNicholl i’r XV i ddechrau, ac roedd croeso mawr wrth weld Ken Owens yn ôl yn y garfan gem ar ôl iddo wella o’r anaf i’w ysgwydd.

Roedd hi’n ddechreuad cryf gan y tîm cartref gydag ymdrech calonogol.

Roedd yr wythwr Sione Kalamafoni wedi ceisio gyrru trwy amddiffyn y gwrthwynebwyr ar ôl tafliad i mewn i’r lein gan Elias, ond methodd y Scarlets i ddiogelu lein arall ac roedd y Gleision yn medru clirio eu llinellau.

Am gyferbyniad, roedd yr ymwelwyr wedi manteisio ar y pwysau rhoddir o fewn 22 y Scarlets. Y maswr Jarrod Evans yn helpu’r cefnwr Matthew Morgan trwy’r bwlch am gais a wnaeth Evans drosi ei hun.

Gan ymateb, chwiliodd y Scarlets am gyfle wrth i Dan Jones cicio i lwybr Johnny McNicholl, ond y bas yn colli Steff Evans ar y tu fas a’r cyfle wedi mynd.

Mwy o bwysau gan y Gleision yn rhoi tri phwynt arall ar eu sgôr wrth i Evans ymestyn y bwlch i 10-0 a dyna oedd y sgôr wrth orffen yr hanner cyntaf.

Dechreuodd y Scarlets yr ail hanner gyda digon o frwdfrydedd, gan fwynhau’r mwyaf o’r diriogaeth a meddiant.

Er eu holl ymdrechion wrth agosáu at y llinell gais, roedd rhaid i’r tîm cartref boddhau gyda chic gosb gan Leigh Halfpenny.

Capten y clwb Ken Owens ymunodd ar 48 munud, ond colli Wyn Jones a Kalamafoni oherwydd anaf - Sione yn taro’i ben wrth daclo prop y Gleision Dmitri Arhip.

Y Scarlets yn dathlu cais gan Angus O’Brien ar 61 munud, ond y cais yn cael ei ddiystyru yn dilyn asesiad gan y dyfarnwr teledu a wnaeth barnu roedd gwthiad anghyfreithlon wedi ei wneud cyn y cais.

Yn dilyn holl ymdrechion y Scarlets, ciciodd yr eilydd Steff Hughes y bel mewn i lwybr Thomson a groesodd y llinell gais yng nghornel y cae i ennill cais cyntaf y tîm cartref, a Halfpenny yn trosi i ddodi’r tîm cartref o fewn tri phwynt.

Er hynny, roedd cyfleoedd y Scarlets wedi dod i ben.

Derbyniodd Kieran Hardy cerdyn melyn yn funudau diwethaf y gêm, a’r Gleision yn cloi’r gêm yn agos at linell y Scarlets.

Yn dilyn y canlyniad hwn, mae’r Gleision yn codi uwchben y Scarlets yng nghynhadledd B gan iddynt chwarae un gêm yn fwy.

CANLYNIADAU
V
|
 
Att.:

CERDYN SGORIO
 
CAIS
- TRO -
- GOSB -
- ADLAM -
- YC -
- RC -
GOSB - Gol Gosb, ADLAM - Gol Adlam,
TRO - Trosiad, CAIS - Cais

BEN WRTH BEN

- CAIS -
- TRO -
- GOSB -
- ADLAM -
- YC -
- RC -
GOSB - Gol Gosb, ADLAM - Gol Adlam,
TRO - Trosiad, CAIS - Cais