Leinster rhy gryf i'r Scarlets yn Nulyn

Leinster rhy gryf i'r Scarlets yn Nulyn

CANLYNIADAU
V
|
 
Att.:
CERDYN SGORIO
BUDDUGOLIAETHAU
COLLEDION
CYFARTAL

Dangosodd Leinster eu cryfder yn eu cartref gan guro'r Scarlets 50-15 yn Nulyn.

Dyma oedd yr ail golled yn olynol yn erbyn gwrthwynebwyr Gwyddelig i ochr Dwayne Peel, a rhoddodd saith o geisiau i'r pencampwyr a llwyddodd i ymestyn y sgôr yn yr ail hanner.

Creuodd y Scarlets dwy gais hyfryd i Johnny McNicholl a Tomas Lezana ar ei ymddangosiad cyntaf - ond gormod o gamgymeriadau gadwodd Leinster i ddominyddu'r meddiant a tiriogaeth.

Scarlets oedd cyntaf ar y sgorfwrdd ar ôl dwy funud o chwarae; y maswr Sam Costelow ar darged gyda chic gosb.

Ei wrthwynebwr Johnny Sexton llwyddodd i godi'r sgôr yn hafal, ond y Scarlets oedd dros y llinell yn gyntaf yn stadiwm RDS.

Y gwaith clyfar gan y canolwr Johnny Williams trwy dadlwytho i Ioan Nicholas ar y tu fas; y cefnwr wedyn yn pasio draw at McNicholl a wnaeth croesi yn y cornel.

Er hynny, roedd gweddill y hanner yn berchen i'r tîm cartref trwy gadw'r meddiant.

Roedd hyn yn golygu i'r ymwelwyr i dreulio llawer o'u hamser yn amddiffyn, yn enwedig wrth eu llinell.

Y bachwr Ronan Kelleher groesodd i'r tîm cartref am eu cais cyntaf ar 23 munud ac munudau ar ôl hynny roedd y prop rhyngwladol Andrew Porter yn croesi am ail gais Leinster.

Y Scarlets yn dal eu tir i gadw'r amddiffyn am yr hanner cyntaf, ond yn dilyn cyfres o wallau fe wobrwyodd y dyfarnwr cais cosb i Leinster rhwng y pyst.

Gyda'r sgôr yn 22-8 ar yr egwyl, roedd angen i'r ymwelwyr ailddechrau yn gryf, ond y cefnogwyr Gwyddelig oedd yn dathlu'r cais pwynt bonws rhyw munudau ar ôl ailddechrau gyda'r blaenasgellwr Caelan Doris yn croesi.

Ond fe lwyddodd y Scarlets i daro nôl am gais arall.

O'r sgrym ar linell 22 Leinster, cyfuniad Dan Jones, Jonathan Davies a McNicholl gosododd y blaenasgellwr Lezana am ei gais cyntaf i'r Scarlets.

Trosiad gan Dan Jones, ond nad oedd Leinster yn fodlon i'r Scarlets gystadlu gyda'r eilyddion Cian Healy a Dan Sheehan (dwywaith) yn ychwanegu at bwyntiau'r tîm cartref.

CANLYNIADAU
V
|
 
Att.:

CERDYN SGORIO
 
CAIS
- TRO -
- GOSB -
- ADLAM -
- YC -
- RC -
GOSB - Gol Gosb, ADLAM - Gol Adlam,
TRO - Trosiad, CAIS - Cais

BEN WRTH BEN

- CAIS -
- TRO -
- GOSB -
- ADLAM -
- YC -
- RC -
GOSB - Gol Gosb, ADLAM - Gol Adlam,
TRO - Trosiad, CAIS - Cais