|
||||||||
|
|
||||||||
| Att.: | ||||||||
|
|
|||||
| BUDDUGOLIAETHAU | |||||
![]() |
|||||
| COLLEDION | |||||
![]() |
|||||
| CYFARTAL | |||||
![]() |
|||||
Llwyddodd Munster i drechu'r Scarlets gyda buddugoliaeth pwynt bonws 28-10 ar noson wlyb a gwyntog ym Mharc Thomond.
Roedd y talaith Gwyddelig ar y blaen o'r hanner cyntaf ar ôl i'r maswr rhyngwladol Joey Carbery cynorthwyo'r sgôr i arwain 21-3.
Er i ddau chwaraewr Scarlet cael eu ddanfon i'r cell gosb rhwng y ddau hanner a gwynebu tywydd gwael, fe rhoddodd ymdrech gwell yn ystod yr ail hanner, ond Munster - sydd yn barod gyda safle yn rownd derfynol y PRO14 ar ddiwedd y mis - llwyddodd i orffen yn fuddugol.
Yr asgellwr Steff Evans groesodd am gais hwyr i'r Scarlets, ond gyda un gêm o'r tymor arferol ar ôl - yn erbyn Connacht ar wythnos i nos Lun - mae llawer o waith i'w wneud i ddiogelu safle yng Nghwpan y Pencampwyr.
Dechreuodd y Scarlets gyda sbarc wrth i'r mewnwr Dane Blacker torri trwy'r amddiffyn, ond colli momentwm gan golli'r bêl a Munster rheolodd gweddill yr hanner.
Yn dilyn cyfnod o ymosod ar linell yr ymwelwyr, llwyddodd y tîm cartref i sgori gyda'r wythwr Gavin Coombes yn croesi ar yr ugainfed munud, gyda Carbery yn trosi.
Ymatebodd y Scarlets gyda chic gosb gan Angus O'Brien, ond munudau yn ddiweddarach croesodd Munster am eu ail gais ar ôl i seren y gêm Carbery torri trwy amddiffyn y Scarlets cyn bwydo'r bêl i'r asgellwr Shane Daly am y cais.
Gwiriodd y dyfarnwr Sean Gallagher gyda'r dyfarnwr teledu am rhwystriad o bosib, ond fe wobrwyodd y cais gyda Carbery yn llwyddo'r trosiad i'w dîm.
Gyda'r Scarlets yn colli eu ffordd o fewn llygaid y dyfarnwr, roedd y tîm i lawr i 14 o ddynion cyn yr hanner pan aeth Aaron Shingler - a wnaeth ymddangosiad da ar ei ddychweliad - oddi'r cae gyda cherdyn melyn am dorri'r llinell. Arweiniodd hyn i drydydd cais Munster trwy'r bachwr Niall Scannell, a weithiodd ei ffordd i'r llinell o'r sgarmes symudol.
Roedd angen ailddechreuad positif i'r Scarlets wrth iddynt golli o 21-3, ond parhaodd Munster i reoli'r ail hanner ac ar ôl i'r eilydd Tevita Ratuva derbyn cerdyn melyn am drosedd yn y llinell, fe alluogodd hyn i Munster gael eu cais pwynt bonws gan ddiolch i'r eilydd, y bachwr Kevin O'Byrne.
Gyda'r tywydd yn gwaethygu, roedd cwarter olaf y gêm yn ddi-siap, ond fe lwyddodd y Scarlets i sgori cais hwyr pan gyfunodd gwaith da Steff Evans a Sam Lousi am gais gyda'r cloc yn goch. Y trosiad gan O'Brien.
Mae'r canlyniad yn golygu bydd rhaid i'r Scarlets aros i weld canlyniadau Benetton v Caerdydd a Connacht v Caeredin i weld beth fydd angen gwneud yn ystod y gêm olaf o ymgyrch y PRO14 yn erbyn Connach ym Mharc y Scarlets.
| GOSB | ADLAM | TRO | CAIS | CHWARAEWR | SEF | CHWARAEWR | CAIS | TRO | ADLAM | GOSB |
| Amser | Gweithredu | Disgrifiad | Tîm |
|
||||||||
|
|
||||||||
| Att.: | ||||||||
| CAIS | ||
| - | TRO | - |
| - | GOSB | - |
| - | ADLAM | - |
| - | YC | - |
| - | RC | - |
TRO - Trosiad, CAIS - Cais

| SEF | CHWARAEWR | CAIS | TRO | ADLAM | GOSB |
| SEF | CHWARAEWR | CAIS | TRO | ADLAM | GOSB |
TRO - Trosiad, CAIS - Cais
| Amser | Gweithredu | Disgrifiad | Tîm |
| - | CAIS | - |
| - | TRO | - |
| - | GOSB | - |
| - | ADLAM | - |
| - | YC | - |
| - | RC | - |
TRO - Trosiad, CAIS - Cais