Mae’r cyffro ar gychwyn – 100 diwrnod sydd i fynd tan i ni agor tymor 2026-27 ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig BKT gyda gêm ddarbi fawr yn erbyn Caerdydd ym Mharc y Scarlets.
Byddwn ni’n croesawu Rygbi Caerdydd i’r Parc ddydd Sadwrn 26 Medi (CG 7.45pm) ac mae’n addo bod yn ddarbi arbennig o dan y llifoleuadau i agor y tymor newydd mewn steil.
Un yr un oedd hi tymor diwehtaf gyda’r Scarlets yn sichrau buddugoliaeth ar Barc yr Arfau a Chaerdydd yn cipio’r fuddugoliaeth ym Mharc y Scarlets.
Fe fydd llond llaw o wynebau newydd yng ngharfan y Scarlets ac yn eu plith y prop rhyngwladol Corey Domachowski a fydd wedi gwneud y siwrne i lawr yr M4 o Gaerdydd, yn ogystal â’r clo Harvey Cuckson ac Alex Groves, y bachwyr John McKee a George Roberts, a’r olwr Isaac Murray-Macgregor.
Mae’n siwr y cewch weld nifer o wynebau cyfarwydd yng ngharfan Caerdydd hefyd gan gynnwys y cyn Scarlets Ioan Lloyd, Javan Sebastian, Daf Hughes, Aled Davies a Dan Thomas.
Gwnewch yn siwr eich bod yn y Parc ar gyfer un o gemau mawr y tymor.
Mae tocynnau ar gael nawr. Gallwch brynu YMA neu cysylltwch â’r swyddfa docynnau ar 01554 292939.
Mae tocynnau tymor ar gael ar gyfer 2026-27 hefyd, dyma’r ffordd mwyaf economaidd o gefnogi’r Scarlets. Dewch yn rhan o’r teulu ac fe gewch chi fwynhau fuddion ychwanegol gan gynnwys gostyngiadau oddi ar fwyd a diod ar ddiwrnod gêm a gostyngiadau yn siop VX3.
