30 diwrnod i fynd tan gêm Caerdydd

Rob LloydNewyddion

Mae gêm agoriadol tymor Pencampwriaeth Rygbi Unedig BKT yn agoshau, gyda’n gêm yn erbyn Caerdydd ar Sadwrn, Medi 26 ond 30 diwrnod i ffwrdd.

Mae’r praratoadau ar yn parhau wythnos yma gyda’r Scarlets yn croesawu’r bois rhyngwladol ac aelodau carfan dan 20 Cymru yn ôl i’r Parc.

Wedi ymuno â’r garfan ehangach yr wythnos hon y mae Blair Murray, Eddie James, Joe Hawkins, Taine Plumtree, Sam Costelow, Ellis Mee and Ryan Elias, ynghyd â’r chwaraewyr dan 20 Carwyn Leggatt-Jones, Yestyn Cook a Will Evans.

Fe fydd gêm gyfeillgar y tymor yn ein gweld ni’n teithio i wynebu Exeter Chiefs ym Mharc Sandy, yn croesawu’r Dreigiau i Glwb Rygbi Llanymddyfri nos Wener, Medi 11 ac yn croesawu’r Saracens i Barc y Scarlets Gwener, Medi 18.

Mae’r frwydr rhwng y gorllewin a’r dwyrain yn un cyffrous bob tro, felly gwnewch yn siwr eich bod chi yn y Parc ar gyfer y gêm yn erbyn Caerdydd.

Mae tocynnau ar gael YMA or from the ticket office on 01554 292939.