Amserlen gemau BKT URC tymor 2026-27

Rob LloydFeatured

Fe fydd y Scarlets yn agor tymor 2026-27 Pencampwriaeth Rygbi Unedig BKT gyda dwy gêm ddarbi.

Caerdydd bydd y gwrthwynebwyr cyntaf ym Mharc y Scarlets wrth i’r tîm agor y tymor gyda gêm ddarbi cartref cyn teithio i Rodney Parade wythnos yn ddiweddarach.

Yn rown tri, fe fydd y cyn hyfforddwr Wayne Pivac yn dychwelyd i Lanelli gyda Benetton ddydd Sadwrn, Hydref 10.

Yn dilyn wythnos o gemau Cwpan Her Ewrop – sy’n digwydd yn gynharach yn y tymor na’r arfer – fe fydd fydd y Scarlets yn teithio i Dde Affrica ar gyfer rownd pedwar a phump gan wynebu DHL Stormers yn Cape Town a Vodacom Bulls yn Pretoria.

Ar ôl gemau Pencampwriaeth y Cenhedloedd, fe fyddwn ni’n wynebu dau dîm Gwyddelig cyn yr ail rownd o gemau Ewropeaidd. Byddwn ni’n croesawu Connacht i Barc y Scarlets ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr ac yna’n teithio i Corc i wynebu Munster a Marnus van der Merwe ddydd Gwener 18 Rhagfyr.

Bydd y gêm ddarbi fawr ar Wyl San Steffan yn erbyn y Gweilch yn digwydd yn San Helen, Sadwrn 26 Rhagfyr am 5.30pm. Daw’r Dreigiau i Barc y Scarlets i agor y flwyddyn newydd ar 2 Ionawr.

Byddwn ni’n teithio i Scotstoun i wynebu Glasgow yn rownd 10 ac yn croesawu Caeredin i Lanelli ar gyfer rownd 11. Tra bod wythnos o seibiant yn ystod y Chwe Gwlad fe fydd y Scarlets yn teithio i Parma i wynebu Zebre Parma. Ar ddydd Sadwrn 20 Mawrth bydd y Lions o Dde Affrica yn ymweld â’r Parc.

Chwe diwrnod yn ddiweddarach fe fydd Leinster yn Llanelli ar gyfer gêm fawr ar nos Wener (7.45pm). Ym mis Ebrill fe fyddwn ni’n teithio i Belfast i wynebu Ulster ac yna’n croesawu Hollywoodbets Sharks i’r Parc. Daw’r tymor i ben gyda dwy gêm ddarbi, yn gyntaf yn erbyn y Gweilch yn y Parc ddydd Sadwrn 8 Mai, ac yna yn erbyn Caerdydd ym Mharc yr Arfau Sadwrn 15 Mai.

Gallwch lawrlwytho’r calendar i’r dyfais. Nodwch y gall gymryd awr i lawrlwytho i’ch calendr.

Lawrlwythwch o’r linc yma https://ql.e-c.al/URCFixtures

Fe fydd themau yn dychwelyd yn ystod tymor 2026-27 hefyd, gyda mwy o fanylion i ddilyn cyn bo hir.

Gemau’r Scarlets 2026-27

Rd 1: Sad, Medi 26 – Caerdydd (C; Parc y Scarlets) 19:45

Rd 2: Sad, Hyd 3 – Dreigiau (OC; Rodney Parade) 15:00

Rd 3: Sad, Hydref 10 – Benetton (C; Parc y Scarlets) 17:30

Rd 4: Sad, Hydref 24 – DHL Stormers (OC; DHL Stadium, Cape Town) 15:00

Rd 5: Sad, Hydref 31 – Vodacom Bulls (OC; Loftus Versfeld, Pretoria) 15:00

Rd 6: Sad Rhagfyr 5 – Connacht (C; Parc y Scarlets) 17:15

Rd 7: Gwe Rhagfyr 18 – Munster (OC; Parc Virgin Media, Corc) 19:45

Rd 8: Sad Rhagfyr 26 – Gweilch (OC; San Helen; 17:30)

Rd 9: Sad, Ionawr 2 – Dreigiau (C; Parc y Scarlets) 15:00

Rd 10: Gwe, Ionawr 22 – Glasgow (OC; Scotstoun Stadium) 19:45

Rd 11: Sad, Ionawr 30 – Caeredin (C; Parc y Scarlets), 15:00

Rd 12: Sad, Chwefror 27 – Zebre Parma (OC; Stadio Lanfranchi, Parma) 17:30

Rd 13: Sad, Mawrth 20 – Lions (C; Parc y Scarlets) 17:30

Rd 14: Gwe, Mawrth 26 – Leinster (C; Parc y Scarlets) 19:45

Rd 15: Sad, Ebrill 17 – Ulster (OC; Affidea Stadium, Belfast) 19:45

Rd 16: Sad, Ebrill 24 – Hollywoodbets Sharks (C; Parc y Scarlets) 15:00

Rd 17: Sad, Mai 8 – Gweilch (H; Parc y Scarlets) 17:30

Rd 18: Sad, Mai 15 – Caerdydd (OC; Parc yr Arfau) 15:00

Amserlen rowndiau terfynol

Rownd yr wyth olaf: Mai 28/29

Rownd cyn derfynol: Mehefin 5

Rownd terfynol: Mehefin 19